Mae Cadwyn Clwyd (Asiantaeth Datblygu Gwledig) yn chwilio am unigolion i ymuno â Grwpiau Gweithredu Lleol (GGLl) yng Ngogledd Ddwyrain Cymru (Sir Ddinbych, Sir y Fflint, a Wrecsam). Cyfrifoldeb y GGLl yw goruchwylio a dyrannu dosbarthiad o dros £7.7 miliwn o arian LEADER mewn ardaloedd gwledig. Cronfa yw LEADER i archwilio dulliau newydd arloesol a thechnolegau arbrofol i fynd i’r afal â thlodi, creu swyddi a hybu datblygiad economaidd cynaliadwy. Mae rhaglen LEADER yn canolbwyntio ar 5 thema:
Cefnogir cynlluniau peilot, astudiaethau dichonoldeb, prosiectau hyfforddi a mentora sy’n gyd fynd â’r themâu hyn a gweithio tuag at amcanion y Strategaethau Datblygu Lleol. mae LEADER yn rhan o gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Bydd yn ofynnol i aelodau’r GGLl I fynychu cyfarfodydd chwarterol i drafod ceisiadau am brosiectau a dyrannu cyllid i brosiectau. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol wybodaeth am faterion gwledig a chorff o brofiad o weithio yn y gymuned, y sector cyhoeddus neu’r sector breifat o fewn yr ardal wledig. Swydd ddi-dâl, wirfoddol yw hon ac nid oes risgiau ariannol yn cronni i aelodau’r GGLl yn bersonol.
Os hoffech wybod mwy am ddod yn aelod o un o’r GGLl, cysylltwch â Cadwyn Clwyd am ragor o wybodaeth ar 01490 340500 neu adam.bishop@cadwynclwyd.co.uk
Dydd Llun 18/01/2021
Dydd Llun 12/04/2021
Dydd Llun 12/07/2021
Dydd Llun 18/10/2021
Dydd Mawrth 19/01/2021
Dydd Mercher 14/04/2021
Dydd Mawrth 13/07/2021
Dydd Mercher 20/10/2021
Dydd Iau 21/01/2021
Dydd Iau 15/04/2021
Dydd Iau 15/07/2021
Dydd Iau 21/10/2021