GWNAETH gweddnewid eu modelau busnes sicrhau fod cynhyrchwyr bwyd a diod lleol a lleoliadau lletygarwch wedi goroesi’r cyfnod cyfyngiadau symud Coronafeirws.
Mae pandemig COVID-19 wedi bod yn un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn hanes y wlad, ond mae wedi arwain hefyd at newid arwyddocaol mewn agweddau ac ysgogi arloesi.
Gwnaeth cwmnïau ar draws trefi a phentrefi gwledig addasu eu horiau gwaith a’u prosesau arferol i fodloni’r galw a chefnogi cwsmeriaid pan oeddent fwyaf o angen hynny, gan ystyried pryderon y gymuned a gofynion iechyd a diogelwch.
O ddanfoniadau i gartrefi i wasanaethau tecawê a gwerthu ar y rhyngrwyd, bu llu o wahanol ddulliau o gyflenwi eitemau ffres, artisan a nwyddau cartref i’r cyhoedd.
Gyda chefnogaeth Blas Gogledd Ddwyrain Cymru – sy’n cael ei gynnal yn rhithiol eleni – mae’r cwmnïau hyn yn gobeithio y bydd pobl yn parhau i’w cefnogi yn y misoedd i ddod ac yn gwneud eu siopa wythnosol mewn siopau lleol a siopau fferm.
Yn eu plith mae Aballu Artisan Chocolatier, wedi’i seilio yn yr Orsedd, ger Wrecsam. Llwyddodd y perchennog Jo Edwards i barhau i gynhyrchu tryfflau a danteithion melys eraill y tu ôl i ddrysau caeedig ar adeg hanfodol bwysig.
“Pan gyhoeddwyd y cyfnod clo gyntaf roeddwn i’n pendroni a fyddwn i’n medru gweithio o gwbl,” meddai Jo.
“Ond gan fy mod i’n medru gweithredu ar fy mhen fy hun ac yn byw’n agos at yr uned lle mae’r siocled yn cael ei gynhyrchu, roeddwn i’n medru dal ati, a oedd yn ryddhad enfawr.
“Roedd yr ymateb gan gwsmeriaid yn anhygoel, maen nhw wedi bod mor gefnogol ac wedi parhau i brynu ein siocledi; fe wnaethon ni ddechrau gwneud danfoniadau am ddim yn lleol, anfon trwy’r post ac roedd pobl yn dod i’w casglu – fe wnaeth ein helpu ni i oroesi.
Ychwanegodd: “Dim ond un archeb y bu’n rhaid i mi ei chanslo oherwydd y cyfnod clo, am tua 300 o dryfflau. Er mwyn gwneud yn siwr nad oedden nhw’n cael eu gwastraffu fe wnes i eu rhoi i’r staff yn ein siop groser lleol, i ddiolch i’r rhai ar y rheng flaen am bopeth maen nhw wedi’i wneud.”
Ac roedd un o’r dyddiadau allweddol yn y calendr i Aballu yn brysurach nag erioed.
“Roedd y Pasg yn nesau pan darodd y Coronafeirws yn y Deyrnas Unedig felly roedd hynny’n gyfnod anodd,” meddai Jo.
“Roedd yn rhaid i mi gael cymorth fy nheulu ac roeddwn i allan ar ddydd Sul y Pasg fy hun yn danfon wyau siocled gan nad oeddwn i eisiau siomi unrhyw un.
“Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae’r archebion post a danfoniadau wedi arafu, ond mae ein cyflenwyr wedi cynyddu eu harchebion, yn enwedig y siopau fferm sy’n dweud fod ein siocled ni wedi dod yn rhan o restr siopa wythnosol pobl, sy’n wych ac yn olau ar ddiwedd y twnnel.”
Nawr mae Jo yn edrych tuag at gyfnod y Nadolig, ac mae’n disgwyl y bydd hyn wedi’i seilio ar werthu ar-lein yn bennaf.
Un arall sy’n edrych ymlaen at gyfnod y Nadolig yw Janet Costidell, sy’n gyfrifol am y Cross Foxes yn Nannerch gyda’i gŵr, Tim.
Mae’n cyfaddef nad yw’n realistig y byddant yn cael Nadolig tafarn traddodiadol oherwydd y Coronafeirws ac mae’n gobeithio y bydd y ‘normal newydd’ yn eu galluogi i ailagor yn llawn yn ystod y misoedd nesaf.
“Daeth y pandemig a’r cyfnod clo dilynol fel sioc fawr i ni gyd,” meddai.
“Fe wnaethom ni ffurfio tîm i ddanfon prydau bwyd a chynnig gwasanaeth pryd ar glyd yn gyflym, fel ein bod ni’n medru parhau i weithredu a, gan fod y Cross Foxes yn ganolog i’r gymuned, roeddem ni’n casglu presgripsiynau ar ran yr henoed a’r bregus.
“Gwnaethom ailagor ddiwedd Gorffennaf, ond y tu allan yn unig, a sefydlu siop y pentref bach gyda llefrith a’r holl eitemau hanfodol ar gyfer trigolion lleol, a oedd ar agor am ddwyawr yn y bore a dwyawr yn y prynhawn bob diwrnod.
“Fe wnaeth ein cadw’n brysur ar adeg heriol. Fe ddaeth pawb at ei gilydd, ac mae’r gefnogaeth wedi bod yn rhyfeddol – un bore fe ddaethom ni yma i ganfod fod pobl wedi gosod bynting i ddweud faint roeddem nhw’n ein gwerthfawrogi ni! Maen nhw wedi bod yn anhygoel.”
Mae ail ddigwyddiad blynyddol Blas Gogledd Ddwyrain Cymru’n cael ei gynnal ar-lein eleni ar ôl i’r trefnwyr, Bwyd a Diod Bryniau Clwyd a Bwyd a Diod Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy, gyda chefnogaeth Cadwyn Clwyd, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac awdurdodau lleol Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych, benderfynu cynnal dathliad rhithiol er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch y cyfranogwyr.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy’n cael ei gyllido gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cydlynydd, Jane Clough, fod ffyddlondeb i fusnesau lleol wnaeth gefnogi cymunedau pryderus yn eu cyfnod o angen yn amlwg iawn.
“Gobeithio na fydd y ffordd y gwnaeth cynhyrchwyr, busnesau lletygarwch a siopau lleol addasu i oroesi a helpu pobl, yn enwedig y rhai’n gwarchod eu hunain ac yn hunan ynysu, yn cael ei anghofio,” meddai.
“Rydym ni eisoes yn clywed sut mae pobl yn cynllunio eu siopa wythnosol i barhau i gefnogi busnesau lleol trwy gynnal danfoniadau i gartrefi, cynnig slotiau casglu nwyddau ac ymweliadau i’w siop fferm neu deli lleol, gan gadw pellter cymdeithasol.
“Mae’n wych gweld hyn ac mae’n tynnu sylw at yr undod a welwyd yng nghymaint o’n trefi a’n pentrefi yng ngogledd ddwyrain Cymru. Bydded i hynny barhau am gyfnod maith.”
Os hoffech gael gwybod mwy am Flas Gogledd Ddwyrain Cymru, eu dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol @taste_blasu neu anfon neges e-bost i taste.blas@gmail.com. Mae croeso i chi edrych ar y wefan hefyd: www.tastenortheastwales.org.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Cadwyn Clwyd, anfonwch neges e-bost i admin@cadwynclwyd.co.uk, ffonio 01490 340500