Cynhelir dathliad bwyd a diod rhanbarthol yn

rhithiol eleni oherwydd y pandemig Covid-19

underline

Roedd yr ail ddigwyddiad Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru i’w gynnal ym mis Hydref ar ôl lansiad llwyddiannus yn 2019 gyda mwy na 30 o fusnesau a 400 o ymwelwyr wedi cymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau dros 40 diwrnod.

Gwnaed y penderfyniad i gynnal yr achlysur, a drefnir gan Fwyd a Diod Bryniau Clwyd a Bwyd a Diod Dyffryn Dyfryn, gyda chefnogaeth yr asiantaeth adfywio gwledig Cadwyn Clwyd, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac awdurdodau lleol Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych, ar-lein y tro hwn i sicrhau iechyd a diogelwch cyfranogwyr.

Mae llawer o gwmnïau ledled y rhanbarth wedi addasu’r modd maen nhw’n gweithredu yn ystod y tri mis diwethaf er mwyn parhau i gyflenwi cwsmeriaid a goroesi’r effaith mae Coronafeirws wedi’i gael ar yr economi.

A gyda llawer o bobl yn dibynnu ar siopau a chynhyrchwyr annibynnol yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud, mae’r neges ‘prynu’n lleol’ yn bwysicach nag erioed.

Cred Donna Hughes, Swyddog Partneriaethau Busnes Cadwyn Clwyd, ei bod yn bwysig fod Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael ei gynnal, er mwyn arddangos cydnerthedd anhygoel y diwydiant.

“Prif ganolbwynt y digwyddiad ydi tynnu sylw at ein cynhyrchwyr bwyd a diod a’n busnesau lletygarwch anhygoel,” meddai Donna.

“Ers dechrau’r pandemig maen nhw wedi wynebu heriau anferthol a bydd yr anawsterau hyn yn parhau dros y misoedd nesaf wrth i ni gael ein rhyddhau o’r cyfyngiadau symud.

“Mae busnesau wedi dangos pa mor hanfodol bwysig ydyn nhw i’w cymunedau, yn ymateb yn gadarnhaol i gyflenwi’r galw, cynyddu danfon nwyddau i helpu pobl sy’n gwarchod yn eu cartrefi, a darparu gwasanaeth cwsmer anhygoel a bwyd a diod lleol i bobl Gogledd Ddwyrain Cymru.”

Ychwanegodd: “Rydym ni eisiau talu teyrnged iddyn nhw a darparu platfform iddyn nhw arddangos eu cynnyrch.

“Y bwriad oedd i’r digwyddiad eleni fod yn fwy ac yn well, ond bydd rhaid gohirio hynny tan 2021, ond mi fyddwn ni’n parhau i fedru dathlu’r cyfan sydd gan Ogledd Ddwyrain Cymru i’w gynnig a hyrwyddo ein cynhyrchwyr bwyd a diod gwych mewn steil.”

Mae’r manylion terfynol i’w cadarnhau, ond bydd y rhith ddigwyddiadau’n cynnwys taith gynhyrchu a sesiwn holi ac ateb, gweld bwytai gan gadw at fesurau pellter cymdeithasol, arddangosfeydd coginio a blasu rhyngweithiol, gyda’r samplau’n cael eu dosbarthu ymlaen llaw.

Mae’r trefnwyr, sy’n cael eu cyllido gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, trwy’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, am glywed gan gwmnïau yn yr ardal ynghylch sut maen nhw’n cynllunio ar gyfer ‘y normal newydd’ a chroesawu cwsmeriaid yn ôl mor ddiogel ag y bo modd.

Dywedodd y Cydlynydd, Jane Clough:

“Bydd y digwyddiadau ar-lein y byddwn ni’n eu cynnal yn ddiweddarach eleni yn rhoi’r cyfle i fusnesau arddangos a rhannu eu cynhyrchion, ond rydym ni eisiau clywed eu straeon hefyd.

“Rydym ni’n agos at y cymunedau hyn ac wedi bod wrth law trwy gydol y cyfnod fel sefydliad i helpu gyda chyfeirio busnesau at gyllid a chymorth, ond yn y pen draw maen nhw wedi sefyll yn gadarn a wynebu heriau’r cyfyngiadau symud oherwydd Coronafeirws.

“Mae rhai wedi gweld cynnydd yn eu gwerthiant hyd yn oed, ac yn bwriadu newid y ffordd y byddan nhw’n gweithredu’n y dyfodol; mae eraill wedi cynyddu cynhyrchu, addas peiriannau a thechnoleg a hyd yn oed wedi dechrau tyfu a datblygu syniadau newydd.”

Ychwanegodd: “Rydym ni’n gwybod am lawer o fusnesau gyda syniadau ar gyfer rhith ddigwyddiadau a straeon am y cyfnod cyfyngiadau symud a sut maen nhw’n dod allan ohono, ond mae llawer rhagor allan yno; hoffem glywed gan unrhyw fusnes bwyd a diod yn yr ardal a fyddai’n hoffi cymryd rhan yn rhith ddigwyddiad Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru.

“Rydym ni am rannu gyda cwsmeriaid sut mae pobl wedi addasu yn wyneb adfyd, sut mae cymunedau wedi dod at ei gilydd a sut, pan oeddem ni fwyaf eu hangen, yr aeth ein siopau a’n cyflenwyr lleol y filltir ychwanegol ar ran pobl Gogledd Ddwyrain Cymru.”

Os hoffech chi gael rhagor o fanylion am Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru neu os oes gennych chi stori i’r tîm, anfonwch e-bost i taste.blas@gmail.com neu edrychwch ar y wefan: www.tastenortheastwales.org