Grwpiau Gweithredu Lleol

Angen Hyrwyddwyr Lleol

underline

Mae Cadwyn Clwyd (Asiantaeth Datblygu Gwledig) yn chwilio am unigolion i ymuno  â Grwpiau Gweithredu Lleol (GGLl)  yng Ngogledd Ddwyrain Cymru (Sir Ddinbych, Sir y Fflint, a Wrecsam). Cyfrifoldeb y GGLl yw goruchwylio a dyrannu dosbarthiad o dros £7.7 miliwn o arian LEADER mewn ardaloedd gwledig.  Cronfa yw LEADER i archwilio dulliau newydd arloesol a thechnolegau arbrofol i fynd i’r afal â thlodi, creu swyddi a hybu datblygiad economaidd cynaliadwy.  Mae rhaglen LEADER yn canolbwyntio ar 5 thema:

  1. Ychwanegu gwerth at hunaniaeth leol ac adnoddau naturiol a diwylliannol
  2. Hwyluso datblygiad cyn fasnachol, partneriaethau busnes a chadwyni cyflenwi byr
  3. Archwilio ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau lleol anstatudol
  4. Ynni adnewyddadwy ar lefel Gymunedol
  5. Manteisio ar Dechnoleg Ddigidol

Cefnogir cynlluniau peilot, astudiaethau dichonoldeb, prosiectau hyfforddi a mentora sy’n gyd fynd â’r themâu hyn a gweithio tuag at amcanion y Strategaethau Datblygu Lleol. mae LEADER yn rhan o gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Bydd yn ofynnol i aelodau’r GGLl I fynychu cyfarfodydd chwarterol i drafod ceisiadau am brosiectau a dyrannu cyllid i brosiectau. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol wybodaeth am faterion gwledig a chorff o brofiad o weithio yn y gymuned, y sector cyhoeddus neu’r sector breifat o fewn yr ardal wledig.  Swydd ddi-dâl, wirfoddol  yw hon ac nid oes risgiau ariannol yn cronni i aelodau’r GGLl yn bersonol.

Os hoffech wybod mwy am ddod yn aelod o un o’r GGLl, cysylltwch â Cadwyn Clwyd am ragor o wybodaeth ar 01490 340500 neu adam.bishop@cadwynclwyd.co.uk

Dyddiadau Cyfarfod GGLl ar gyfer 2021

GGLl Sir Ddinbych 

Dydd Llun            18/01/2021

Dydd Llun            12/04/2021

Dydd Llun            12/07/2021

Dydd Llun            18/10/2021

GGLl Sir y Fflint 

Dydd Mawrth    19/01/2021

Dydd Mercher   14/04/2021

Dydd Mawrth    13/07/2021

Dydd Mercher   20/10/2021

GGLl Wrecsam 

Dydd Iau              21/01/2021

Dydd Iau              15/04/2021

Dydd Iau              15/07/2021

Dydd Iau              21/10/2021