innovationlines
buddsoddi mewn

BUSNES AC ARLOESEDD

underline

THEMA 2 LEADER: HWYLUSO DATBLYGU CYN-FASNACHOL, PARTNERIAETHAU BUSNES A CHADWYNI CYFLENWI BYR

Mae thema 2 LEADER yn ymwneud â mudiadau, grwpiau a busnesau lleol sy’n chwilio am ffyrdd newydd o gynhyrchu pethau, gwneud pethau a chydweithio. Yn benodol, bydd Cadwyn Clwyd yn gweithio gyda’r sector busnes er mwyn gallu cynnig cefnogaeth cyn-fasnachol wedi’i theilwra i helpu entrepreneuriaid lleol brofi dichonoldeb cysyniadau a syniadau busnes newydd mewn amgylchedd cefnogol sy’n rheoli risg. Bydd prosiectau enghreifftiol yn cynnwys rhoi cysyniad a dichonolrwydd syniadau busnes newydd ar brawf, astudiaeth beilot ar ddatblygiad gwahanol gynnyrch a chynnyrch bwyd yn ogystal â’i gwneud hi’n haws derbyn cefnogaeth mentora a chyfarwyddyd. Mae’r thema hefyd yn cynnwys cefnogaeth benodol i fusnesau sy’n ymwneud â’r sectorau twristiaeth, amaethyddiaeth a choedwigaeth, hamdden, llety, manwerthu a bwyd er mwyn gwella cysylltiadau a gwaith rhwydweithio digidol. Ni all LEADER gynnig cefnogaeth fyddai’n cael ei ystyried yn Gymorth Gwladwriaethol, felly bydd pob cymorth gyda gwaith masnachol yn canolbwyntio ar waith cyn-fasnachol ac fe gaiff canfyddiadau pob astudiaeth beilot a dichonolrwydd eu cyhoeddi er lles pawb.

Mae’r prosiectau yn cynnwys hwyluso Fforwm Bwyd Gogledd-Ddwyrain Cymru, prosiect Llwybrau Dysgu sy’n galluogi grwpiau a busnesau lleol i ddysgu am arferion da grwpiau eraill, prosiect peilot i ddatblygu llu o wirfoddolwyr, a phrosiect sy’n gweithio gyda chanolfan technoleg bwyd i ddatblygu cynnyrch bwyd newydd sy’n gysylltiedig â’r ardal leol.

Cyllid Grant - ar gau

Adnewyddu Menter

underline

Roed cynllun Adnewyddu Menter yn rhoi cymorth uniongyrchol i fentrau bach a micro yn ardaloedd gwledig Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam adfer yn dilyn pandemig Covid-19. Gall mentrau cymdeithasol a cymunedol hefyd wneud cais ar gyfer arian grant.

Roedd busnesau yn gallu ymgeisio am grant 50%, hyd at uchafswm gwerth £10,000 o gronfeydd grant (a fyddai £5,000 o gronfa grant a £5,000 o ariant cyfatebol gan ymgeiswyr) tuag at gostau yn ymwneud a chyflwyno cynnyrch newydd neu prosesau. Isafswm gwerth cais oedd £2,000 (a fyddai £1,000 o gronfa grant a £1,000 o ariant cyfatebol gan ymgeiswyr).

Oherwydd mai dim ond hyn a hyn o gymorth oedd ar gael, roedd y cynllun hwn yn fwyaf addas i ficrofusnesau a busnesau bach newydd.

Un o flaenoriaethau’r prosiect oedd i gefnogi mentrau i gyflwyno cynnyrch newydd a/neu prosesau nad yw’r fenter wedi’w defnyddio o’r blaen. Ni chaniateir ceisiadau ôl-weithredol am gostau a godwyd eisoes gan yr ymgeisydd. Roedd y ffocws ar gefnogi cyflwyno technolegau arloesol a ffyrdd newydd o wneud busnes. Gall prosesau newydd wella cynhyrchiant, cynyddu trosiant, proffidioldeb a chyfran o’r farchnad, trwy wneud y busnes yn fwy cystadleuol. Roedd prosiectau cymwys fel arfer yn cynnwys ehangu, arallgyfeirio a moderneiddio busnes sy’n bodoli eisoes. Roedd gwariant yn fuddsoddiad newydd mewn asedau, fel offer, wrth ddatblygu strategaeth farchnata, neu weithredu technoleg TG i wella busnes sy’n bodoli eisoes.

enghreifftiau o gyllid cymwys:

  • Prynu / llogi peiriannau a offer newydd
  • Costau gosod
  • Ffioedd proffesiynol am wasanaethau
  • Strategaethau marchnata a / neu gostau marchnata ar gyfer cynhyrchion neu brosesau newydd
  • Technoleg ddigidol, cyfathrebu a gwybodaeth
  • Caledwedd a / neu feddalwedd cyfrifiadurol a rhwydwaith
  • Technoleg band-eang
  • Datblygiad gwefan ac apiau
  • Systemau cyfrifyddu / rhestr eiddo / archebu
  • Ynni cynaliadwy / adnewyddadwy
  • Prosiectau lleihau gwastraff ac ailgylchu
  • Gwelliannau i’r safle
 I ddarganfod mwy, cliciwch ar y llun isod i weld y ddogfen astudiaethau achos llawn, neu drwy glicio enw’r busnes i ddarllen asutidaethau achos unigol.

sir y ddinbych

Antur Rhuthin

sir y ddinbych

Blusky Brands

sir y ddinbych

Graig Escapes

sir y ddinbych

Snowdonia Candles

sir y fflint

Mold Golf Club

 wrecsam

Gatewen Training

 wrecsam

North Wales Beds

Cyllidir y prosiect trwy LEADER, sy’n cefnogi prosiect datblygu gwledig wedi’u hysgogi ar y lefel leol i adfywio ardaloedd gwledig a chreu swyddi. Mae’n rhan o Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014 – 2020, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.