Mae Cadwyn Clwyd Cyfyngiedig yn fenter gymdeithasol sy’n rhoi arweiniad a chefnogaeth i gymunedau a mentrau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a thu hwnt. Mae’r Cwmni’n canolbwyntio ar gamau gweithredu sy’n ysgogi cyfranogiad llawr gwlad, gweithio mewn partneriaith ac arloesi i gefnogi prosiectau economaidd-gymdeithasol ar gyfer cymunedau a mentrau sy’n gweithredu ar lefel leol. Mae’n gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau lleol a mentrau bach i gynorthwyo gyda datblygu a gweithredu prosiectau sydd o fudd i economi leol yr ardal.
Mae gan y Cwmni a’i staff gyfoeth o brofiad blaenorol o gyflwyno rhaglenni datblygu gwledig, cymunedol ac economaidd o fewn y sectorau Arallgyfeirio Amaethyddiaeth, Bwyd-Amaeth a Bwydydd Arbennigol, Cynlluniau Amgylcheddol, Cymorth Busnes, Twristiaeth Diwylliannol, Twristiaeth Werdd, Prosiectau Treftadaeth a Chadwraeth, Datblygiad Mentrau Cymdeithasol, Datblygiad Cymunedol, Meithrin Gallu Cymunedol a Mynediad i Wasanaethau.
Mae’r Cwmni ar hyn o bryd yn darparu prosiectau a ariennir gan Lywodraeth y DU yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam ac mae’n ymwneud â chefnogi cymunedau a mentrau o fewn y meysydd canlynol:
Asiantaeth Datblygiad Gwledig yw Cadwyn Clwyd Cyfyngiedig, sy’n darparu arweiniad a chymorth i ddatblygu ac arallgyfeirio a chymorth i ddatblygu ac arallgyfeirio’r economi leol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a thu hwnt trwy gronfeydd Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, yr Undeb Ewropeaidd, y Sector Cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat. Sefydlwyd y Cwmni yn 2001 gyda’i brif weithgareddau presennol yn canolbwytio ar Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam a Chonwy (Brenig) ynghyd â phrosiectau Cymru gyfan. Roedd ei ragflaenydd, Cadwyn LEADER II Cyfyngiedig yn weithredol rhwng 1994 a 2002 ac yn gweithredu yng Nghonwy, Sir Ddinbych a Wrecsam. Rydym yn Gwmni Cyfyngiedig trwy Warant nid-er-elw. Rydym wedi ein cyfansoddi i weithredu a chyflwyno rhaglenni er budd cymunedau yng Nghymru.
Ein nod cyffredinol fel cwmni yw meithrin a galluogi datblygiad economaidd-gymdeithasol a arweinir gan y gymuned er budd cymunedau Gogledd Cymru a thu hwnt.
Amcanion y Cwmni yw:
Ers 1994 rydym wedi gweithio gyda chymunedau i gyflenwi dros £30 miliwn mewn prosiectau, grantiau a chymorth i ddatblygiad cymunedol ac economaidd-gymdeithasol yn ein hardal weithredol a ledled Cymru. Rydym yn annibynnol gyda strwythur llwyodraethau clir, rheolaeth ariannol gadarn ac yn hyblyg i ddiwallu anghenion cyllidwyr a chleientiaid.
Ein cryfderau allweddol:
darparu arweiniad a chymorth
Cysylltwch â Cadwyn Clwyd trwy lenwi’r ffurflen isod a bydd un o’r tîm yn cysylltu â chi.
E-bost: admin@cadwynclwyd.co.uk