Hyfforddiant Busnes Am Ddim yn Dod i Drefi ledled Sir Ddinbych

Mae Cadwyn Clwyd yn falch o lansio rhaglen newydd o hyfforddiant busnes am ddim sydd wedi’i chynllunio i helpu busnesau Sir Ddinbych i ddatblygu sgiliau newydd, gwella perfformiad a chynllunio ar gyfer twf yn y dyfodol.

Rhaglen y Gweithdai

๐Ÿ“ Llangollen โ€“ 25 Mehefin
Gwella eich adnoddau gwerthiannau e-fasnach a digidol

๐Ÿ“ Y Rhyl โ€“ 2 Gorffennaf
Marchnata digidol a phresenoldeb ar-lein effeithiol

๐Ÿ“ Llanelwy โ€“ 23 Gorffennaf
Defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer busnes

๐Ÿ“ Rhuthun โ€“ 20 Awst
Llif arian a sut i gynhyrchu arian parod yn gyflym

๐Ÿ“ Dinbych โ€“ 17 Medi
Cynllunio, tyfu ac ehangu eich busnes

Archebwch Eich Lle

Mae’r gweithdai’n rhad ac am ddim, ond mae’n hanfodol archebu lle ymlaen llaw. Mae cod QR penodol ar gyfer pob gweithdy ar y poster hyrwyddo โ€“ sganiwch y cod QR ar gyfer y sesiwn o’ch dewis i gofrestru.

Edrychwn ymlaen at groesawu busnesau o bob cwr o Sir Ddinbych a’u cefnogi i dyfu a llwyddo.