Mae thema 2 LEADER yn ymwneud â mudiadau, grwpiau a busnesau lleol sy’n chwilio am ffyrdd newydd o gynhyrchu pethau, gwneud pethau a chydweithio. Yn benodol, bydd Cadwyn Clwyd yn gweithio gyda’r sector busnes er mwyn gallu cynnig cefnogaeth cyn-fasnachol wedi’i theilwra i helpu entrepreneuriaid lleol brofi dichonoldeb cysyniadau a syniadau busnes newydd mewn amgylchedd cefnogol sy’n rheoli risg. Bydd prosiectau enghreifftiol yn cynnwys rhoi cysyniad a dichonolrwydd syniadau busnes newydd ar brawf, astudiaeth beilot ar ddatblygiad gwahanol gynnyrch a chynnyrch bwyd yn ogystal â’i gwneud hi’n haws derbyn cefnogaeth mentora a chyfarwyddyd. Mae’r thema hefyd yn cynnwys cefnogaeth benodol i fusnesau sy’n ymwneud â’r sectorau twristiaeth, amaethyddiaeth a choedwigaeth, hamdden, llety, manwerthu a bwyd er mwyn gwella cysylltiadau a gwaith rhwydweithio digidol. Ni all LEADER gynnig cefnogaeth fyddai’n cael ei ystyried yn Gymorth Gwladwriaethol, felly bydd pob cymorth gyda gwaith masnachol yn canolbwyntio ar waith cyn-fasnachol ac fe gaiff canfyddiadau pob astudiaeth beilot a dichonolrwydd eu cyhoeddi er lles pawb.
Mae’r prosiectau yn cynnwys hwyluso Fforwm Bwyd Gogledd-Ddwyrain Cymru, prosiect Llwybrau Dysgu sy’n galluogi grwpiau a busnesau lleol i ddysgu am arferion da grwpiau eraill, prosiect peilot i ddatblygu llu o wirfoddolwyr, a phrosiect sy’n gweithio gyda chanolfan technoleg bwyd i ddatblygu cynnyrch bwyd newydd sy’n gysylltiedig â’r ardal leol.
Roed cynllun Adnewyddu Menter yn rhoi cymorth uniongyrchol i fentrau bach a micro yn ardaloedd gwledig Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam adfer yn dilyn pandemig Covid-19. Gall mentrau cymdeithasol a cymunedol hefyd wneud cais ar gyfer arian grant.
Roedd busnesau yn gallu ymgeisio am grant 50%, hyd at uchafswm gwerth £10,000 o gronfeydd grant (a fyddai £5,000 o gronfa grant a £5,000 o ariant cyfatebol gan ymgeiswyr) tuag at gostau yn ymwneud a chyflwyno cynnyrch newydd neu prosesau. Isafswm gwerth cais oedd £2,000 (a fyddai £1,000 o gronfa grant a £1,000 o ariant cyfatebol gan ymgeiswyr).
Un o flaenoriaethau’r prosiect oedd i gefnogi mentrau i gyflwyno cynnyrch newydd a/neu prosesau nad yw’r fenter wedi’w defnyddio o’r blaen. Ni chaniateir ceisiadau ôl-weithredol am gostau a godwyd eisoes gan yr ymgeisydd. Roedd y ffocws ar gefnogi cyflwyno technolegau arloesol a ffyrdd newydd o wneud busnes. Gall prosesau newydd wella cynhyrchiant, cynyddu trosiant, proffidioldeb a chyfran o’r farchnad, trwy wneud y busnes yn fwy cystadleuol. Roedd prosiectau cymwys fel arfer yn cynnwys ehangu, arallgyfeirio a moderneiddio busnes sy’n bodoli eisoes. Roedd gwariant yn fuddsoddiad newydd mewn asedau, fel offer, wrth ddatblygu strategaeth farchnata, neu weithredu technoleg TG i wella busnes sy’n bodoli eisoes.
Cyllidir y prosiect trwy LEADER, sy’n cefnogi prosiect datblygu gwledig wedi’u hysgogi ar y lefel leol i adfywio ardaloedd gwledig a chreu swyddi. Mae’n rhan o Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014 – 2020, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.