Mae Cadwyn Clwyd Cyfyngiedig yn fenter gymdeithasol sy’n rhoi arweiniad a chefnogaeth i gymunedau a mentrau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a thu hwnt. Mae’r Cwmni’n canolbwyntio ar gamau gweithredu sy’n ysgogi cyfranogiad llawr gwlad, gweithio mewn partneriaith ac arloesi i gefnogi prosiectau economaidd-gymdeithasol ar gyfer cymunedau a mentrau sy’n gweithredu ar lefel leol. Mae’n gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau lleol a mentrau bach i gynorthwyo gyda datblygu a gweithredu prosiectau sydd o fudd i economi leol yr ardal.
Mae gan y Cwmni a’i staff gyfoeth o brofiad blaenorol o gyflwyno rhaglenni datblygu gwledig, cymunedol ac economaidd o fewn y sectorau Arallgyfeirio Amaethyddiaeth, Bwyd-Amaeth a Bwydydd Arbennigol, Cynlluniau Amgylcheddol, Cymorth Busnes, Twristiaeth Diwylliannol, Twristiaeth Werdd, Prosiectau Treftadaeth a Chadwraeth, Datblygiad Mentrau Cymdeithasol, Datblygiad Cymunedol, Meithrin Gallu Cymunedol a Mynediad i Wasanaethau.
Mae’r Cwmni ar hyn o bryd yn darparu prosiectau a ariennir gan Lywodraeth y DU yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam ac mae’n ymwneud â chefnogi cymunedau a mentrau o fewn y meysydd canlynol:
darparu arweiniad a chymorth
Cysylltwch â Cadwyn Clwyd trwy lenwi’r ffurflen isod a bydd un o’r tîm yn cysylltu â chi.
E-bost: admin@cadwynclwyd.co.uk