Mae Patchwork Foods wedi sicrhau chwe swydd newydd ac yn ehangu’r fwydlen diolch i grant Sir Ddinbych Ffyniannus. Mae grant Sir Ddinbych Ffyniannus wedi rhoi cyfle i’r cwmni bwyd crefftus o Rhuthun brynu offer newydd bydd yn eu galluogi i lansio cynnyrch newydd.
Dywedodd Graham Jackson, cyfarwyddwr anweithredol Patchwork Foods:
“Mae’r cyllid wedi ein galluogi i ehangu a rhoi hwb i’n cynhyrchiant a’n heffeithlonrwydd. Diolch i gefnogaeth Cadwyn Clwyd a grant Sir Ddinbych Ffyniannus rydym am allu creu cyfleoedd newydd yn ogystal ag ehangu i farchnadoedd newydd o fewn y DU a thu hwnt na fyddai wedi bod yn bosib heb y cyllid. Byddwn yn annog unrhyw fusnes yn Sir Ddinbych i edrych ar y cymorth sydd ar gael.”
Mae’r grant hwn wedi sicrhau chwe swydd newydd a’r nod yw cynyddu eu trosiant 50% dros y ddwy flynedd nesaf drwy lansio cynnyrch newydd gan gynnwys relish, siytni a jam. Bydd hyn yn helpu diogelu’r busnes, creu swyddi o safon yn yr ardal leol a darparu buddion hirdymor i’r busnes a’r gymuned ehangach.
Mae’r datblygiad newydd hwn yn gweld y cwmni’n creu pecynnau unigol, gan ganiatáu i gynnyrch Patchwork gael ei ddefnyddio mewn gwestai, ar longau mordaith ac awyrennau. Mae’r busnes bach hwn wedi mynd i’r afael â heriau’r farchnad yn uniongyrchol.
Mae Patchwork Foods wedi dod yn bell ers 1982, pan ddechreuodd Margaret Carter a Jenny Whitham gyda’r weledigaeth sy’n dal yn wir heddiw – mae popeth wedi’i wneud â llaw ac wedi’i greu mewn sypiau bach. Yn angerddol dros fwydydd cain, fe wnaethant lansio cwmni yn cynnig amrywiaeth o ddanteithion gourmet, o batés a terrines i barfaits, siytni, a jamiau.
Heddiw, mae’r cwmni wedi’i leoli mewn ffatri bwrpasol yn Llys Parc, Rhuthun, ond mae’n aros yn driw i’w wreiddiau, gan grefftio arbenigeddau cartref gan ddefnyddio ryseitiau gwreiddiol Margaret ac yn rhydd o unrhyw liwiau artiffisial, ychwanegion a chadwolion. Gyda’u golygon ar dyfu eu cwsmeriaid gartref ac yn rhyngwladol mae Patchwork Foods yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi lletygarwch lleol a chreu swyddi newydd.
O freuddwyd cogydd cartref i gwmni crefftus sy’n cynnig dros 30 math o bâté. Mae’n debyg y bydd Patchwork yn cymryd taith newydd gyda marchnadoedd a chynhyrchion newydd ddiolch i’r gefnogaeth a sicrhawyd gan Cadwyn Clwyd.
Nifer y swyddi a grewyd o ganlyniad i’r cymorth a ddarparwyd |
6 |
Nifer y swyddi a ddiogelwyd o ganlyniad i’r cymorth a ddarparwyd |
1 |
Nifer y mentrau newydd a grewyd o ganlyniad i’r cymorth a ddarparwyd |
2 |
Nifer y mentrau’n cyflwyno cynhyrchion neu wasanaethau newydd neu wedi’u gwella o ganlyniad i’r cymorth a ddarparwyd |
1 |
Nifer y mentrau’n mabwysiadau technolegau neu brosesau busnes newydd o ganlyniad i’r cymorth a ddarparwyd |
1 |