Bydd y Gronfa Allweddol hon yn ategu nod Sir Ddinbych i gynorthwyo gyda darparu cymorth cyflogadwyedd o safon
Bydd y Gronfa Allweddol hefyd yn ategu amcanion blaenoriaeth Pobl a Sgiliau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sef:
gan gynnwys addysg a hyfforddiant sy’n fodd i bobl o bob oedran gyflawni hyd eithaf eu gallu, yn bersonol ac yn broffesiynol.
Gallai’r Gronfa Allweddol ariannu hyd at 100% o’r costau cymwys. Gan ddwyn i ystyriaeth y raddfa amser gymharol fyr o ran darparu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae cyllid cyfatebol yn ddewisol h.y. nid yw’n orfodol. Bydd y Gronfa Allweddol yn caniatáu cymaint o hyblygrwydd â phosibl o ran gwerth y grant y gofynnir amdano.
Gall y mathau canlynol o fudiadau ymgeisio am gyllid, fodd bynnag, mae’n rhaid i bob ymgeisydd fod â hanes o weithredu yn Sir Ddinbych:
Mudiadau gwirfoddol neu elusennol cyfansoddiadol
Gall consortiwm o fudiadau gyflwyno cais. Fodd bynnag, mewn achos o’r fath, bydd angen nodi partner arweiniol yng Nghynnig / Ffurflen Gais y Prosiect.
Nid oes hawl gan Gwmnïau Masnachol neu Unigolion gynnig prosiectau i’r Gronfa Allweddol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd feddu ar gyfansoddiad a chyfrif banc o leiaf.
Gallwch weld manylion llawn y Gronfa Pobl a Sgiliau yn y Nodiadau Canllaw.
Mae’r ffenestr ar gyfer ceisiadau bellach ar gau.
Mae’r sefydliadau, prosiectau a swm y cyllid a sicrhawyd o’r gronfa hon wedi’u rhestru yma: Prosiectau Cronfa Allweddol Pobl a Sgiliau Sir Ddinbych.