digitallines
Cronfa Ffyniant Gyffredin

Cymunedau Ffyniannus Wrecsam Cronfa Allweddol

underline

Yn darparu cefnogaeth i leoliadau/cyfleusterau/mannau/grwpiau a arweinir gan y gymuned a/neu sy’n eiddo i’r gymuned i ddatblygu, cryfhau a gwella seilwaith cymunedol a phrosiectau cymunedol. Mae’r gronfa’n darparu swyddogaeth cymorth cofleidiol i grwpiau cymunedol gael mynediad at Gronfa Allweddol Gymunedol. Mae’r prosiect hefyd yn cynnig cymorth ac arweiniad swyddogion.

 

Y Nod:

  • Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent ar eu gwannaf
  • Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent wedi’u colli
  • Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y mannau hynny sydd heb asiantaeth leol

Yr Amcanion:

  • Cryfhau ein gwaead cymdeithasol a meithrin ymdeimlad o falchder a pherthyn lleol, trwy fuddsoddi mewn gweithgareddau sy’n gwella cysylltiadau ffisegol, diwylliannol a chymdeithasol a mynediad i amwynderau, er enghraifft seilwaith cymunedol a mannau gwyrdd lleol, a phrosiectau a arweinir gan y gymuned.
  • Adeiladu cymdogaetahu gwydn, iach a diogel, trwy fuddsoddi mewn lleoedd o safon y mae pobl eisiau byw, gweithio, chwarae a dysgu ynddynt, trwy welliannau wedi’w targedu i’r amgylchedd adeiledig a naturiol dulliau arloesol o atal trosedd.

Cymunedau Ffyniannus Wrecsam – Cronfa Allweddol

Hyd at £10,000 (cyfalaf) ar gael i ymgeisio amdano, yn dibynu ar natur ac effaith y prosiect

 

Pwy all Ymgeisio:

Gall y mathau canlynol o sefydliadau wneud cais am arian sy’n darparu neu’n ceisio darparu mynediad i wasanaethau a arweinir gan y gymuned a seilwaith cymunedol ar gyfer cymunedau ar draws Wrecsam:

  • Grwpiau gwirfoddol a chymunedol
  • Cynghorau Cymuned / Cynghorau Tref
  • Elusennau Cofrestredig
  • Mentrau cymdeithasol, gan gynnwys cwmnïau cyfyngedig drwy warantau, CIC’s ac Ymddiriedolaethau Datblygu, ar yr amod eu bod yn gweithredu ar sail nid er elw (gan gynnwys undebau credyd)
  • Cwmnïau Cydweithredol

 

Gall cynigion prosiect gael eu gwneud gan gonsortiwm o grwpiau, ond lle mae hyn yn wir, dylid nodi partner arweiniol yn Ffurflen Cynnig y Prosiect. Ni all unigolion gynnig prosiectau i’r Gronfa Allweddol.

 

Rhaid i bob ymgeisydd gael cyfansoddiad a chyfrif banc o leiaf.

Beth Sydd Ar Gael:

Cronfa Allweddol Gymunedol:

Gellir gwneud cais am hyd at £50k o refeniw a chyfalaf yn dibynnu ar natur ac effaith y prosiect. Gellir gwneud cais am gyfalaf a refeniw ar gyfer eich prosiect:

  • Ffurflen gais grant bach rhwng £2,000 a £10,000
  • Ffurflen gais grant mawr o £10,000 £50,000 (gellir ystyried symiau mwy lle gall prosiectau ddangos y gallant gyflwyno buddion lluosog).

 

Cefnogi prosiectau cymunedol sy’n:

  • Darparu mannau cymunedol, megis neuaddau pentref, mannau gwyrdd neu ganolfannau cymunedol i gymdeithas sifil leol a grwpiau cymunedol eu defnyddio;
  • Galluogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth leol a rheoli gwastraff i wella’r newid i fyw bywyd carbon isel;
  • Creu a gwella mannau gwyrdd lleol cymunedol, gerddi cymunedol, cyrsiau dŵr ac argloddiau, ynghyd ag ymgorffori nodweddion naturiol a gwelliannau bioamrywiaeth i fannau cymunedol ehangach;
  • Darparu a chefnogi gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol, treftadaeth a chreadigol lleol dan arweiniad y gymuned;
  • Darparu mynediad i wasanaethau trwy gyfleusterau chwaraeon lleol;
  • Darparu seilwaith digidol o fewn asedau a chyfleusterau sy’n eiddo i’r gymuned.

 

Rhaid cwblhau pob prosiect erbyn 30 Medi 2024.

Mae rhestr o brosiectau sydd wedi’w cymeradwyo ar gael drwy ddilyn linc yma: Prosiectau wedi’w Cymeradwyo. 

Sut i wneud cais:

Bydd angen cwblhau Ffurflen Gais ar-lein. Bydd y Swyddog Prosiect yn cysylltu â chi i drafod eich cais.

 

Os hoffech drafod eich syniadau, cysylltwch â:

Cadwyn Clwyd ar 01490 340500 neu AVOW ar 01978 312556