prosiect a Cadwyn Clwyd gefnogir

Rhuthun wedi’i gadarnhau fel lleoliad a phartner ffafriol Cymdeithas Beicio Cymru ar gyfer eu Felodrom yng Ngogledd Cymru

underline

Cyhoeddodd LK2, cwmni arbenigol annibynnol, astudiaeth dichonolrwydd ac achos busnes Cyngor Tref Rhuthun. Aeth Beicio Cymru ati i adolygu’r astudiaeth ac yn dilyn hynny bu iddyn nhw gadarnhau eu bod yn dewis Rhuthun fel lleoliad i agor Felodrom yn yr Awyr Agored yng Ngogledd Cymru. Roedd hyn ar sail safle dewisol y Gymdeithas yn Glasdir a’u hawydd i fynd rhagddi gyda chamau nesaf y broses. Ymysg camau nesaf y broses bydd trafodaethau gyda Chyngor Sir Dinbych ynghylch mabwysiadu’r safle gwag, ymgynghori gyda thrigolion y gymuned ynghylch syniadau am felodrom ar dir parc, datblygu’r model gweithredol gyda rhanddeiliaid ynghyd â llunio cynigion a chostau.

Hwb beicio gyda’r gymuned wrth y llyw

Mae Rhuthun mewn man perffaith ar gyfer pob math o feicio gyda ffyrdd yn arwain at rai o lwybrau beicio ffordd a mynydd gorau’r byd tuag at Eryri a thu hwnt. Y weledigaeth ynghlwm â’r Felodrom ydy bod Rhuthun yn hwb beicio canolog yn Nyffryn Clwyd i gefnogi nifer o gyfleusterau beicio sydd eisoes yn yr ardal fel llwybrau Beicio Mynydd OnePlanet Adventure yng Nghoed Llandegla hyd at lwybrau Marsh tracks yn y Rhyl.

Bydd y cyfleuster arfaethedig yn addas i bobl o bob gallu, nid beicwyr profiadol (a chlybiau beicio) yn unig. Bydd yn ganolfan arbennig ar gyfer y gymuned gyda phob math o weithgareddau a sesiynau lle gall holl drigolion y gymuned fanteisio arnyn nhw. Ymysg sesiynau a gweithgareddau’r Felodrom bydd hyfforddiant diogelwch y ffordd, beicio i ferched, beicio i ddisgyblion cynradd ac uwchradd, beicio i oedolion ifanc, beicio i bawb, gweithgareddau ar olwynion i bobl anabl ynghyd â sesiynau beicio i bobl dros 60.

Cyfnod cyffrous o ran beicio

Mae’n gyfnod cyffrous o ran beicio, wrth i Lywodraeth Cymru a Phrydain gyhoeddi sawl menter i annog pobl i roi cynnig ar feicio drwy’r cynlluniau teithio Llesol ac adolygiad o reolau’r ffordd fawr. Dyma nodau’r weledigaeth:

  • strydoedd mewn gwell gyflwr ar gyfer beicio a phobl sy’n eu cerdded
  • bod beicio a cherdded wrth wraidd y broses gwneud penderfyniadau
  • rhoi grym i ac annog awdurdodau lleol
  • cynnig cyfle i bobl feicio a’u diogelu pan fo nhw’n mynd ati i feicio

Bydd y Felodrom yn fodd i drigolion Gogledd Cymru (a thu hwnt) ddysgu sut i reidio a gwella eu sgiliau mewn lleoliad diogel sy’n addas ar gyfer pawb. Bydd hefyd yn gyfle i blant ledled y rhanbarth ddatblygu eu gallu fel eu bod yn medru beicio’n ddiogel a chystadlu yn lleol ac yn genedlaethol.

Dywedodd Maer Rhuthun, Gavin Harris:

“Er gwaethaf effaith Covid, bu i Gyngor Tref Rhuthun, gyda chyllid gan Cadwyn Clwyd, gydweithio gyda sawl rhanddeiliaid i fynd rhagddi gyda’r prosiect. Rydym wrth ein bodd fod Beicio Cymru wedi dewis ein tref ni yn dilyn yr astudiaeth dichonolrwydd hollgynhwysol. Bu modd i’r arbenigwyr annibynnol amlygu dichonoldeb, fforddiadwyedd a defnydd dichonol y prosiect i bobl ledled Gogledd Cymru. Mae hyn oll yn tystio i lwyddiant ein cais cychwynnol. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu syniadau ar gyfer felodrom yn yr awyr agored ar dir parc yn Glasdir gyda’r gymuned er mwyn gofalu fod y prosiect unigryw hwn yn cynnig buddion yn ymwneud â chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a chwaraeon ac effeithiau adfywio economaidd drwy gyfleuster cynaliadwy all gynhyrchu buddion eang i Ruthun, Sir Ddinbych a gweddill Gogledd Cymru.”

I wybod mwy, cysylltwch gyda:

Cydlynydd Prosiect Cyngor Tref Rhuthun. – Ruth Astbury – ruth.astbury@gmail.com – 07484 647 661

Cyngor Tref Rhuthun, Y Maer Gavin Harris – gavin.harris@me.com – 07538922628