Sir y Fflint Wledig

Cadwyn Clwyd Swydd Wag Cyfarwyddwr

underline

Mae Cadwyn Clwyd yn chwilio am Gyfarwyddwr newydd o Sir y Fflint wledig i’w Fwrdd presennol. Mae’r rôl yn galw am fynychu cyfarfodydd chwarterol a goruchwylio’r gwaith o redeg y cwmni a rheoli contractau a phrosiectau.

Asiantaeth Datblygu Gwledig yw Cadwyn Clwyd Cyfyngedig. Mae’n darparu arweiniad a chymorth i ddatblygu ac arallgyfeirio’r economi wledig yn Siroedd Dinbych, Fflint a Wrecsam drwy gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd, cronfeydd domestig y Deyrnas Unedig a chronfeydd y sector preifat. 

Mae’r Cwmni’n canolbwyntio ar weithredu sy’n ysgogi cyfranogi ar lawr gwlad, gweithio drwy bartneriaeth ac arloesi, i gefnogi prosiectau ar gyfer cymunedau gwledig a grwpiau sector. Mae’n gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau lleol i helpu i ddatblygu prosiectau sydd o fudd i economi leol yr ardal a’u rhoi ar waith.

Mae gan y cwmni chwech Cyfarwyddwr, o Siroedd Dinbych, Fflint a Wrecsam.  Mae’r Cyfarwyddwyr yn cynrychioli’r sectorau cymunedol/gwirfoddol, preifat a chyhoeddus.

Mae’r portffolio presennol o raglenni a chytundebau yn cynnwys:

  • Prosiectau’r Cynllun Datblygu Gwledig gan gynnwys y Cynllun LEADER yn ardal wledig Gogledd Ddwyrain Cymru.
  • Cronfa Budd Cymunedol Fferm Wynt Brenig
  • Cronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU.

Mae rhagor o fanylion ar gael yn Adroddiad Blynyddol diweddaraf y Cwmni.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar wybodaeth am faterion gwledig a chyfoeth o wybodaeth o weithio yn y sectorau cymunedol/gwirfoddol, preifat a chyhoeddus yn yr ardal wledig. Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd ac yr hoffech wybod mwy, cysylltwch â Cadwyn Clwyd ar y manylion isod.

Ffôn: 01490 340 500

Ebost: admin@cadwynclwyd.co.uk

Facebook: @cadwynclwyd

Twitter: @CadwynClwyd