Yn darparu cefnogaeth i leoliadau/cyfleusterau/mannau/grwpiau a arweinir gan y gymuned a/neu sy’n eiddio i’r gymuned i ddatblygu, cryfhau a gwella seilwaith cymunedol a phrosiect cymunedol. Mae’r gronfa’n darparu swyddogaeth cymorth cofleidiol i grwpiau cymunedol gael mynediad at Gronfa Allweddol Gymunedol. Mae’r prosiect hefyd yn cynnig cymorth ac arweiniad swyddogion.
Gall y mathau canlynol o sefydliadau wneud cais am arian sy’n darparu neu’n ceisio darparu mynediad at wasanaethau a arweinir gan y gymuned a seilwaith cymunedol ar gyfer cymunedau ledled Sir y Fflint:
Gall cynigion prosiect gael eu gwneud gan gonsortiwm o grwpiau, ond lle mae hyn yn wir, dylid nodi partner arweiniol yn Ffurflen Cynnig y Prosiect. Ni all unigolion gynnig prosiectau i’r Gronfa Allweddol.
Rhaid i bob ymgeisydd gael cyfansoddiad a chyfrif banc o leiaf.
Cymorth Cyllid Datblygu Cyn Prosiect:
Hyd at £10,000 y grŵp i gefnogi cymunedau i gymryd y cam cyntaf i wireddu a gweithredu prosiectau a bydd yn ariannu;
Cronfa Allweddol Gymunedol:
Gellir gwneud cais am hyd at £50k o refeniw a chyfalaf yn dibynnu ar natur ac effaith y prosiect:
Rhaid cwblhau pob prosiect erbyn 30 Medi 2024.
Ceir manylion llawn Cronfa Allweddol Cymunedau Ffyniannus Sir y Fflint yn y NODIADAU CYFARWYDDYD.
Bydd angen cwblhau FFURFLEN MYNEGI DIDDORDEB ar-lein. Bydd y Swyddog Prosiect yn cysylltu â chi i drafod eich cais.
Cadwyn Clwyd ar 01490 340500 neu FLVC ar 01352 744000