Cyllid Newydd

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

underline

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn biler canolog o agenda Lefelu i Fyny Llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle, a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, gan fuddsoddi mewn cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Mae Prospectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r gronfa.

 

Prif nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin bachder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU. O dan y nod cyffredinol hwn, mae tair blaenoriaeth fuddsoddi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU :

  1. Cymunedau a lle ;
  2. Cefnogi busnesau lleol ; a
  3. Pobl a sgiliau

 

Bydd yr arian a sicrhawyd gan Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn canolbwyntio ar y ddwy flaenoriaeth fuddsoddi gyntaf.

Cymunedau a Lle

Bydd y flaenoraeth buddsoddi cymunedau a lleoedd yn galluogi lleoedd i fuddsoddi er mwyn adfer eu gofodau cymunedol a chreu’r sylfeini ar gyfer datblygiad economaidd ar raddfa leol. Darllenwch fwy am sut bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi cymunedau yn Sir y Fflint a Wrecsam trwy glicio ar y dolenni perthnasol ar gyfer y Gronfa Allweddol Gymunedol isod.

Buddsoddiad Busnes Lleol 

Bydd y flaenoriaeth buddsoddi cefnogi busnesau lleol yn galluogi lleoedd i ariannu ymyriadau sy’n cefnogi busnesau lleol i ffynnu, arloesi a thyfu. Mae cyllid ar gael yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint i fentrau micro a bach ddatgloi eu potensial twf. Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi busnesau’n uniongyrchol drwy Gronfa Twf Twristiaeth Sir Ddinbych a Sir y Fflint Ffyniannus – cliciwch ar y dolenni perthnasol isod i gael rhagor o fanylion.

Yn ogystal, mae cyllid ar gael ar gyfer astudiaethau dichonoldeb yn Sir y Fflint i gyflawni prosiectau sy’n targedu datblygiad twristiaeth a’r economi ymwelwyr. Ac yn Sir Ddinbych mae cyllid ar gael i hyrwyddo a chefnogi rhwydweithio a chydweithio rhwng grwpiau busnes.

Os hoffech drafod pa gynllun sydd fwyaf addas ar gyfer eich prosiect, cysylltwch ag un o’r tim ar 01490 430500.

Cysylltu

Cysylltwch gyda Cadwyn Clwyd

underline

Cysylltwch gyda Cadwyn Clwyd drwy lenwi’r ffurflen isod, mi fydd un o’r tim mewn cysylltiad gyda chi.

Ebost: admin@cadwynclwyd.co.uk