innovationlines
Sir Ddinbych Ffyniannus

Cronfa Cydweithio Busnes Sir Ddinbych

underline

Ariennir Cronfa Cydweithredu Busnes Sir Ddinbych Ffyniannus gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU drwy’r flaenoriaeth fuddsoddi ‘cefnogi busnesau lleol’.

Bydd Cronfa Cydweithredu Busnes Sir Ddinbych Ffyniannus yn hyrwyddo ac yn cefnogi rhwydweithio a chydweithio, trwy ymyriadau sy’n dod a busnesau a phartneriaid ynghyd o fewn ac ar draws sectorau i rannu gwybodaeth, arbenigedd ac adnoddau, ac ysgogi arloesedd a thwf. Bydd yn canolbwyntio ar;

  • Arloesi
  • Entrepreneuriaeth
  • Twf busnes
  • Uchelgeisiau Sero Net

Pwy all ymgeisio:

Bydd y gronfa yn cefnogi grwpiau fel grwpiau busnes, siambrau masnach, a chlystyrau busnes i wireddu prosiectau ar lawr gwlad sydd o fudd iddynt ar y cyd; a sefydliadau sy’n gweithredu yn y sir sy’n ceisio cyflawni prosiectau wedi’w targedu at fentrau micro a bach gan gynnwys mentrau cymdeithasol.

Sut i ymgeisio:

Ceir manylion llawn Cronfa Cydweithio Busnes Sir Ddinbych Ffynniannus yn y NODIADAU CYFARWYDDYD.

 

Bydd angen cwblhau FFURFLEN GYNNIG PROSIECT.  Bydd y Swyddog Prosiet Cydweithredu Busnes yn cysytllu â chi i drafod y cais.

Os hoffech drafod eich syniadau cysylltwch â:

Donna Hughes ar 01490 340500 / 07833 084352