Lansio'n Swyddogol

Y Cynllun Hydro Corwen

underline

Ymwelodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, â Chorwen ar Fai 17eg i lansio’r cynllun hydro y dref yn swyddogol.

Mynychodd Ysgrifennydd y Cabinet lansiad yng Nghanolfan Ni ac yna ymwelodd â’r tŷ tyrbin ar gyfer seremoni torri rhuban.

Mae’r tyrbin yng nghanol y dref ac mae’n cael ei yrru gan nentydd Nant y Pigyn a Nant Cawrddu sy’n disgyn i lawr 500 troedfedd o’r gronfa ddŵr uwchben Corwen i gynhyrchu 55 kilowat awr o drydan, yn ddigon i gyflenwi 40 o gartrefi’r flwyddyn.

Mae’r cynllun yn eiddo i bobl leol a bydd yn cael budd o drydan rhatach.

Gweinidog Ynni Llywodraeth Cymru Lesley Griffiths yn lansio cynllun Hydro Corwen

Gweinidog Ynni Llywodraeth Cymru Lesley Griffiths yn nhŷ tyrbin y cynllun Hydro Corwen gyda Mike Paice, Cadeirydd  a chyfranddeiliad y Prosiect a chynghorydd technegol gwirfoddol Huw Smallwood.

Gweinidog Ynni Llywodraeth Cymru Lesley Griffiths yn lansio cynllun Hydro Corwen

Gweinidog Ynni Llywodraeth Cymru Lesley Griffiths yn lansio cynllun Hydro Corwen