Rydym yn chwilio am gydlynydd prosiect brwdfrydig a llawn cymhelliant i weithio gyda Darganfod Dinbych (grŵp cymunedol) i gydlynu prosiect newydd i wella cyd-hyrwyddo busnesau, gwasanaethau, gweithgareddau, a digwyddiadau yn Ninbych a’r cyffiniau.

Bydd y Cydlynydd yn cael ei benodi ar sail hunangyflogedig.

Mae hwn yn brosiect 8 mis, yn dechrau Mai 2024 (neu cyn gynted ag sy’n ymarferol) ac yn cwblhau 1 Rhagfyr 2024 gyda phosibilrwydd o estyniad yn amodol ar sicrhau cyllid.

Gweler y ddogfen Gwahoddiad i Gyflwyno Dyfynbris a ganlyn am ddisgrifiad swydd ac ar fanylion sut i wneud cais – Gwahoddiad i Gyflwyno Dyfynbris, Cydlynydd Busnes Darganfod Dinbych. 

DYDDIAD CAU yw 4pm Dydd Iau 2 Mai 2024