dweud eich dweud. . . .

Ymgynghoriad Cyhoeddus Nantglyn

underline

Mae Cadwyn Clwyd a Chyngor Cymuned Nantglyn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn ystyried cyfleusterau/adnoddau presennol; sefydlu beth yw anghenion y gymuned leol; asesu’r potensial am ddatblygiad newydd a beth yw’r opsiwn mwyaf poblogaidd.

Rydym eisiau clywed eich barn chi trwy unai:

Gwblhau Holiadur: trwy linc https://www.surveymonkey.com/r/Nantglyn2019 neu ar wefannau Cyngor Cymuned Nantglyn neu Cadwyn Clwyd ac mae copïau yn Nhŷ’r Eglwys a Llyfrgell/Siop Un Alwad Dinbych.

Sgwrs ffôn: Ffoniwch Dylan Roberts Gweriniaith ar 07989 393445 rhwng dydd Llun 29ain o Ebrill a dydd Gwener 31ain o Fai 2019.

Ddod i ddiwrnod Agored: Dewch i Tŷ’r Eglwys Nantglyn rhwng 10 y bore a 2 y pnawn ar ddydd Sadwrn 11fed o Fai 2019.