lansio'r prosiect

Hwb o £220mil i’r Asiantaeth Adfywio tuag at wasanaethau cynghori yng nghefn gwlad Sir y Fflint

underline

Caiff prosiect dwy flynedd gwerth £220,000 i symud gwasanaethau Cyngor Ar Bopeth (CAB) o drefi Sir y Fflint i’r cefn gwlad ei lansio ledled y sir.

Diben ymgyrch Prosiect Cyngor Cefn Gwlad a Gwella Adnoddau Digidol, gyda chefnogaeth gan Grŵp Gweithredu Lleol Sir y Fflint ac wedi ei ariannu gan yr asiantaeth adfywio gwledig, Cadwyn Clwyd, ydy cynnig cyfle i drigolion cymunedau cefn gwlad anghysbell dderbyn atebion i’w problemau a thrafferthion heb orfod gadael eu pentref.

Bu i CAB Sir y Fflint gynnal eu cyfarfod allestyn cyntaf yn Nhalacre’r mis diwethaf ac mae 18 arall wedi eu trefnu i fedru gwasanaethu’r holl ardaloedd cefn gwlad.

Dywedodd Arweinydd y Prosiect, Jo Smith: “Rydym yn gofalu bod y gwasanaeth yn haws manteisio arno oherwydd bod nifer o’r bobl sydd angen ein help a chefnogaeth yn ei gweld hi’n anodd cyrraedd y trefi lle mae ein swyddfeydd.

“Yn lle hynny, byddwn yn ymweld â nhw yn y cyfarfodydd hyn i roi gwybod iddyn nhw sut mae modd manteisio ar ein gwasanaeth drwy gysylltiadau digidol. Byddwn hefyd yn cynnig pecyn hyfforddi er mwyn helpu pobl i ddefnyddio’r ddolen a gofalu bod modd manteisio ar ein gwasanaethau’n haws.

“Nid ydy pawb mewn ardaloedd cefn gwlad yn meddu ar gar neu yn medru dibynnu ar gludiant cyhoeddus. Fodd bynnag, mae modd i’r bobl hynny gysylltu gyda ni’n rhwydd yn defnyddio’u cyfrifiaduron personol gan dderbyn ymateb cyflym i’w cwestiynau.”

Caiff y cynllun ei ariannu drwy Grŵp Gweithredu Lleol LEADER Sir y Fflint ac mae yna dal £600,000 yn weddill o bot gwerth £2.5 miliwn. Bu i’r prosiect dderbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020 gaiff ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru fel rhan o gynllun chwe blynedd i adfywio cymunedau cefn gwlad â’u heconomïau.

Dywedodd Swyddog Prosiect Cadwyn Clwyd, Helen Williams: “Mae hyn yn gynllun allestyn pwysig dros ben sy’n cynnig cyngor arbennig gan gynghorwyr CAB i bawb.

“Mae hefyd newyddion da i gefn gwlad Sir y Fflint bod yna dal £600,000 yn weddill i fanteisio arno yn y sir ac rydym yn awyddus i glywed cynigion am gynlluniau gallwn eu cefnogi ledled y Sir. Byddwn yn cydweithio gyda’n Grŵp Gweithredu Lleol, sef grŵp o drigolion y gymuned, i adnabod y cynlluniau ac i ofalu y cân nhw eu lansio.”

Mae CAB Sir y Fflint yn cydweithio gyda Choleg Cambria i hyfforddi pobl i fedru defnyddio llechi (cyfrifiadurol) i gysylltu gyda’u dau weithiwr achos digidol a derbyn ymatebion ymhen mwyafswm o dri diwrnod gwaith.

Bydd y tîm, o dan arweiniad Jo Smith, yn ymweld â chymunedau ledled Sir y Fflint i rannu’r neges fod cyngor ar gael ar flaenau’ch bysedd. Bydd y tîm hefyd yn trefnu sesiynau ar gyfer Coleg Cambria i gynnig hyfforddiant ymarferol mewn mannau ledled y Sir fel bod modd i drigolion fanteisio ar y gwasanaeth ar-lein yn rhwydd.

Ychwanegodd Jo Smith: “Bu inni sefydlu perthnasau gwerth chweil gyda chynghorau cymuned ledled y Sir ac mae nifer ohonyn nhw eisoes yn cynnig cysylltiadau digidol mewn canolfannau cymuned lleol. Buasai modd defnyddio’r rhain i gysylltu gyda CAB.

“Nod yr ymgyrch ydy cysylltu gyda thrigolion cefn gwlad am y tro cyntaf er mwyn inni fedru datblygu cyswllt cynaliadwy er mwyn iddyn nhw fanteisio ar ein gwasanaethau’n rhwydd.”

Roedd Vivien Sims, o Dalacre, yn un o’r bobl yn y sesiwn yn Nhalacre ac fe ddywedodd hi: “Fe wnes i ddod i’r sesiwn oherwydd roeddwn i’n gwybod fod CAB am fod yn bresennol a bu i un o fy nghoed ddisgyn ac achosi cryn dipyn o ddifrod.

“Fe ddylai fod yn wasanaeth defnyddiol oherwydd pan fydd angen cyngor arnoch chi, fe allwch chi gysylltu gyda nhw’n hawdd ac fe alla i ofyn i fy nith fy helpu i gysylltu gyda’r we.”

Ychwanegodd ei chymydog, Freda Bevan : “Mae gennym ni ddosbarthiadau cyfrifiadureg yma yn y ganolfan ar ddydd Llun ac mae cyfle inni ddysgu sut i gysylltu gyda’r we ar y cyfrifiaduron yma.”

Dywedodd Rheolwr Cadwyn Clwyd, Lowri Owain: “Fel cwmni, buom yn hynod lwyddiannus yn ennill cyllid ac yn helpu i lansio prosiectau. Rydym yn cydweithio gydag ystod eang o brosiectau.

“Mae gennym ni dal cyllid yn weddill ar gyfer prosiectau yn ymwneud â holl agweddau o fywyd cefn gwlad yn Sir y Fflint, o fanteisio ar wasanaethau, twristiaeth, cynhyrchu bwyd a chreu swyddi i wella cyfleusterau cymunedol ac annog mentergarwch yn y gymuned.

“Bydd yn golygu y bydd yr economi leol yn Sir y Fflint yn parhau i amrywio a datblygu.”

Y llynedd bu i 75 gwirfoddolwr Cyngor Ar Bopeth Sir y Fflint gynnig 650 awr o gyngor yr wythnos er mwyn helpu dros 6,700 o gleientiaid. Bu i’r gwirfoddolwyr hefyd fynd i’r afael â 28,000 o faterion yn ymwneud â chyngor, gan gynnwys datrys gwerth £6.6 miliwn o ddyledion.

Bu i’r elusen, sy’n cynnal digwyddiad Cysgu Allan noddedig yng Nghei Connah ar ddydd Sadwrn, Mawrth y 23ain, er mwyn amlygu’r broblem o ddigartrefedd, helpu trigolion yr ardal i fanteisio ar bron i £5 miliwn o incwm ac ateb 1,411 o alwadau ar ran Adviceline Cymru.

I wybod mwy am gronfeydd LEADER ac am brosiectau fasa’n gymwys i dderbyn cefnogaeth, cysylltwch gyda Cadwyn Clwyd ar 01490 340500, anfonwch e-bost: admin@cadwynclwyd.co.uk