Mae Cadwyn Clwyd yn darparu dau gytundeb ar ran Adfywio Cymru:
Cafodd Adfywio Cymru ei sefydlu gan grŵp o ymarferwyr cymunedol er mwyn helpu 200 o grwpiau cymunedol fynd i’r afael ag achosion ac effeithiau newid hinsawdd trwy gynnig cyngor, hyfforddiant, mentora a chefnogaeth dechnegol gan Ymarferwyr Cymunedol profiadol eraill.
Cydlynydd Adfywio Cymru
Trwy ein 30 o gydlynwyr, bydd y prosiect yn cysylltu ac yn dechrau sgwrs newydd gyda 200 o grwpiau cymunedol ar draws Cymru er mwyn eu hysgogi, eu hysbrydoli a dangos yr hyn mae modd ei wneud (yn seiliedig ar brofiad ymarferol blaenorol) a helpu cymunedau osod eu blaenoriaethau eu hunain er mwyn gweithredu trwy sgyrsiau, gweithdai a grwpiau ffocws.
Bydd y gefnogaeth yn un o gyfoedion i gyfoedion gan bobl sydd eisoes wedi cynnal prosiectau yn eu cymunedau.
Darllenwch fwy ar http://www.renewwales.org.uk
cydlynydd ynni lleol
Mae Ynni Lleol yn ffordd newydd o alluogi cymunedau i gydweithio er mwyn cronni eu generadiad lleol a rheoli gofynion lleol er mwyn lleihau biliau ac allyriadau carbon. Mae Ynni Lleol yn credu y dylai cymunedau allu elwa o symud eu defnydd ynni at amseroedd rhatach yn ystod y dydd a’i gydweddu gyda generadiad lleol.
Mae prawf ynni lleol wedi’i gymeradwyo gan OFGEM ar fynd ym Methesda, Gwynedd. Mae Ymgynghorwyr Ynni Lleol wedi’u cyflogi er mwyn ymestyn y prawf hwnnw i bum lleoliad newydd ar draws Cymru.