Teithiau Dysgu

Ymweliad i Moorepark

underline

Fel rhan o brosiect Teithiau Dysgu bu 15 o ffermwyr llaeth Siroedd Dinbych a Fflint, ym mis Gorffennaf, draw yn Ne Iwerddon yn ymweld ậ ffermydd ac yn benodol i fynd i ddiwrnod agored sefydliad ymchwil llaeth Moorepark sydd 20 milltir i’r Gogledd o Cork. Os hoffech wybod mwy am y prosiect yma cysylltwch â ni ar 01490 340500.