Mae’r prosiect hwn yn ceisio edrych ar ddichonolrwydd gridiau Ynni Clyfar gan gynnwys storfa, cyflenwad uniongyrchol, monitro a rheoliadau ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy sydd o fudd i gymunedau a phrosiectau sy’n gallu mynd i’r afael â thlodi tanwydd. Bydd yn edrych ar ddichonolrwydd ôl-dariff-bwydo-i-mewn ynni adnewyddadwy cymunedol ac yn datblygu astudiaethau achos ar gyfer 10 prosiect ar draws ardaloedd gwledig Cymru.

Rydym ni’n bwriadu gweithio gyda 10 prosiect ar draws Cymru i ddatblygu cynlluniau busnes manwl.

Bydd y cynlluniau hyn yn edrych ar ddichonolrwydd defnyddio gwasanaethau Ynni Clyfar ar gyfer eich prosiect ynni adnewyddadwy. Byddwn ni’n gweithio gyda’r prosiectau penodol er mwyn edrych ar wasanaethau Ynni Clyfar ac yn helpu i fodelu’r technolegau gaiff eu dewis. Mae hefyd cefnogaeth ar gael trwy gyngor technolegol yn ogystal â’r gallu i fynd ar ymweliadau i weld prosiectau enghreifftiol priodol.

Os oes gennych chi ddiddordeb ac yn dymuno gwybod mwy, yna cysylltwch â ni drwy ffonio 01490 340500 neu anfonwch e-bost at admin@cadwynclwyd.co.uk