Arloesi Cymunedol Sir Ddinbych

Cyhoeddi cyllid newydd ar gyfer Sir Ddinbych

underline

Mae arloeswyr ac entrepreneuriaid sydd â syniadau am brosiectau cynaliadwy yn cael eu hannog i wneud cais am grantiau a fydd yn ysgogi adferiad economaidd ôl-Covid yn Sir Ddinbych.

Dan arweiniad Cadwyn Clwyd a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd), bydd prosiect Arloesedd Cymunedol Sir Ddinbych gwerth £600,000 yn canolbwyntio ar annog cwmnïau micro, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig a threfol i gyflwyno cynigion a fydd yn cyflwyno buddion rhanbarthol ac amgylcheddol.

Wedi’i gefnogi gan Gyngor Sir Ddinbych a’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy’r £220 miliwn o Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, mae cymorth ar gael i 25 o sefydliadau neu unigolion a all wneud cais am grant o £5,000 y byddant yn rhoi arian cyfatebol iddynt i dreialu cynhyrchion, systemau newydd, a gwasanaethau.

Bydd Busnes Cymru hefyd wrth law gyda chanllawiau a chyngor drwy gydol y broses.

Dywedodd Rheolwr Cadwyn Clwyd, Lowri Owain, fod hwn yn “gyfle gwych” i fanteisio ar gymorth ariannol a fydd yn datblygu sgiliau a systemau wrth osod y sylfaen ar gyfer ffyniant a swyddi.

“Ein prif nod yw gweithio mewn partneriaeth ag entrepreneuriaid Sir Ddinbych a grwpiau cymunedol i brofi hyfywedd eu cysyniadau busnes mewn amgylchedd cefnogol, wedi’i reoli tra’n gwerthuso’r effaith gadarnhaol y gallent ei chael ar yr economi leol,” meddai Lowri.

“Yn y pen draw, o ystyried heriau’r pandemig Coronafeirws mae angen y math hwn o gefnogaeth, ond hefyd am lwyfan i arddangos y datblygiadau arloesol anhygoel sydd wedi digwydd yn y cyfnod clo, syniadau a allai arwain at gynnyrch cynaliadwy o ansawdd uchel a gwasanaethau.

“Nid ydym wedi ein cyfyngu i ddiwydiant neu sector arbennig, rydym eisiau clywed gan bobl ar draws y sir a’u helpu i wneud gwahaniaeth am flynyddoedd i ddod, boed hynny drwy dwristiaeth, bwyd a diod, manwerthu, hamdden neu lu o sectorau eraill.”

Gall grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol hefyd wneud cais am gymorth ariannol hyd at £20,000 ar gyfer astudiaethau dichonoldeb a phrosiectau peilot a allai fod yn sail i geisiadau sydd angen cymorth pellach gan gronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU pan gaiff ei lansio yn ddiweddarach eleni.

Gall rhain ganolbwyntio ar gynaliadwyedd, twf gwyrdd ac arloesiadau sy’n helpu’r economi leol i adfer yn dilyn heriau’r Coronafeirws.

Dywedodd Swyddog Partneriaethau Busnes Cadwyn Clwyd, Donna Hughes, yr hoffent weld technolegau newydd yn dod i’r amlwg a fydd yn darparu buddion amgylcheddol a chymunedol ehangach.

“Rydym yn gobeithio clywed gan sefydliadau mewn ardaloedd arfordirol yn ogystal â lleoliadau gwledig gan fod y cynllun yn targedu pob ardal o Sir Ddinbych,” meddai Donna.

“Yn ogystal â chael effaith yn lleol bydd y cyllid a’r arweiniad sydd ar gael yn ychwanegu gwerth i’r sefydliadau a’r grwpiau cymunedol dethol wrth iddynt edrych i’r dyfodol – mae’n gyfle enfawr iddynt.”

Cefnogodd AS Dyffryn Clwyd Dr James Davies y fenter a dywedodd:

“Mae’n bwysig bod busnesau micro a bach yn y rhanbarth yn cael cefnogaeth a llwyfan i ddangos ac arddangos eu harloesedd.

“Mae Cronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU yn eu galluogi i wneud hynny drwy Arloesi Cymunedol Sir Ddinbych. Bydd rhai busnesau bach a chanolig wedi dechrau ym mhwysau eithafol Covid, ac mae’n arbennig o dda eu gweld yn cael cyfle i ffynnu.

“Byddwn yn annog pob busnes o’r fath sydd â’r potensial i wella eu gwasanaethau presennol neu ddatblygu cynnyrch cynaliadwy newydd a all gael effaith ar y gymuned leol a’r economi, i wneud cais am grant.”

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch admin@cadwynclwyd.co.uk fel arall, ffoniwch 01490 340500.