Mae prosiect twristiaeth newydd sbon gyda’r nod o hybu economi cefn gwlad drwy annog ymwelwyr i ymweld ag un o ranbarthau mwyaf prydferth Cymru a manteisio i’r eithaf ar eu cyfnod yma wedi ei lansio yng ngogledd ddwyrain Cymru.

MENTER DWRISTIAETH AROS, BWYTA, GWNEUD YN LANSIO YNG NGOGLEDD DDWYRAIN CYMRU

underline

Diben Aros, Bwyta, Gwneud ydy cynnig pecynnau sy’n gyfuniad o letyau, bwyd a gweithgareddau yn Ardal Bryniau Clwyd ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, sef AHNE mwyaf Cymru.

Mae wedi ei lansio gan Grŵp Twristiaeth Bryniau Clwyd yn sgil astudiaeth dichonolrwydd wedi ei gomisiynu gan yr asiantaeth adfywio cefn gwlad Cadwyn Clwyd. Dywedodd y Cydlynydd Prosiect sydd newydd ei phenodi, Julie Masters: “Ein nod ydy annog pobl i ddod yma, aros yn hirach a mwynhau mwy o’r hyn rydym yn ei gynnig yn y rhanbarth.

“Mae ymwelwyr yn tueddu o aros am ddiwrnod neu benwythnos ond os oes modd inni greu amserlen arbennig iddyn nhw gyda llefydd i aros, llefydd i fwyta a gweithgareddau, yna mae’n bosib y byddan nhw’n ystyried ymestyn eu hamser yma a threulio penwythnos hir neu hyd yn oed wythnos gyfan yma.

“Bu inni fynd ati i drefnu’r pecynnau fel rhan o gynllun tair blynedd. Fe hoffem ni glywed gan gymaint o’r darparwyr twristiaeth â phosib er mwyn gofalu profiadau cofiadwy, difyr a chyffrous i’n hymwelwyr sy’n cyfuno pob un o’r tair elfen.

“Mae hwn yn gynllun tair blynedd felly os ydych chi’n dymuno bwrw golwg ar weithgareddau’r dyfodol, fe hoffem ni glywed gennych chi.”

Bydd Aros, Bwyta, Gwneud ar waith tan haf 2021 a’r gost ydy £71,000 gyda chyllid gan Cadwyn Clwyd a Bryniau Clwyd ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Dyfrdwy gyda chefnogaeth gan Gynghorau Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint sydd hefyd yn rhan o’r prosiect.

Caiff cyfraniad Cadwyn Clwyd tuag at y prosiect ei ariannu gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r Cynllun Datblygu Gwledig wedi ei ariannu drwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Llywodraeth Cymru fel rhan o gynllun chwe blynedd i adfywio cymunedau ac economïau cefn gwlad.

Dau ddarparwr twristiaeth sydd eisoes yn cyfuno eu gwasanaeth ydy Richard Haggerty, sy’n llogi beiciau trydan ac yn cynnig llety yn Nhŷ Fferm Glan Llyn, y gwesty mae ef a’i bartner Paola yn ei redeg ym Maeshafn, ger Llanferres a Carl Percival o siop Revolution Cycles yn yr Wyddgrug.

Dywedodd Richard, a ddaw yn wreiddiol o Glasgow – mae ei bartner Paola o Bologna yn yr Eidal –: “Rydw i’n credu bod y Prosiect yn syniad gwych, bydd yn help i greu rhwydwaith busnes ar y cyd a datblygu cynigion gwell i ddenu ymwelwyr i’r ardal a gofalu eu bod yn aros yn hirach.

“Mae cymaint i wneud yn yr ardal, gyda golygfeydd godidog, llefydd arbennig i aros, bwyd lleol arbennig a llawer iawn o weithgareddau ac atyniadau.”

“Mae’n wlad ddelfrydol ar gyfer beicio gyda llawer o ffyrdd cefn gwlad distaw ac mae’r modur trydan yn rhoi hwb ichi ar y dringfeydd serth. Mae’n gofalu fod teithio o amgylch yr ardal yn llawer mwy rhwydd ichi.”

Mae Carl, a wnaeth adeiladu ychydig o’r beiciau mae Richard yn eu llogi gyda llaw, hefyd yn awyddus i ddod yn ddarparwr gweithgareddau gan drefnu teithiau beic rheolaidd o amgylch yr Wyddgrug bob penwythnos.

Mae Julie Masters yn awyddus i glywed gan fwy o fusnesau twristiaeth sy’n dymuno bod yn rhan o’r prosiect, fe ychwanegodd: “Bu i bobl drafod llunio amserlenni er mwyn cyfuno lletyau, bwyd a gweithgareddau ond does yna neb wedi mynd ati i wneud hyn tan rŵan. Diben Aros, Bwyta, Gwneud ydy cynnig hyn i gyd.

“Rydym yn chwilio am glystyrau o fusnesau sy’n medru dod ynghyd i gynnig ystod eang o wyliau ar gyfer pob math o ymwelwyr, o deuluoedd, gyda phlant yn eu harddegau, sy’n hoff o gadw’n heini i gyplau neu grwpiau o ffrindiau sy’n dymuno cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’i gilydd.

“Gall hynny fod yn ddringo neu feicio neu efallai diddordeb ar y cyd mewn treftadaeth neu fywyd gwyllt neu efallai dysgu sgiliau cefn gwlad fel plygu gwrychoedd, codi waliau cerrig sych neu gael blas ar ddiwylliant Cymru.

“Mae gennym ni lefydd gwych i aros ar gyfer pobl gyda gwahanol gyllidebau ynghyd â chynigion bwyd arbennig.  Gallwn gynnig amserlenni ar-lein er mwyn i ymwelwyr posib fanteisio arnyn nhw.”

Bu i Swyddog Partneriaeth Busnes Cadwyn Clwyd, Gwyn Rowlands helpu sefydlu’r cynllun ac fe ddywedodd:  “Yn gynharach eleni, bu inni drefnu taith darganfod ffeithiau i ‘Loop Head’ ar arfordir y gorllewin yn Iwerddon lle maen nhw’n cynnal prosiect o’r fath yn llwyddiannus.

“Mae’r prosiect yn denu teithwyr a fydd yn treulio’u hamser a gwario’u harian yn lleol. Bydd hyn yn ei dro yn cryfhau’r economi lleol ac yn cynnig cyfleoedd i fusnesau cefn gwlad lleol.”

Gall unrhyw fusnes sy’n dymuno bod yn rhan, gysylltu gyda Chydlynydd Aros, Bwyta, Gwneud, Julie Masters ar julie.stayeatdo@gmail.com. Mae mwy o wybodaeth a ffurflen datgan diddordeb ar www.crtgmembers.co.uk