Cronfa Budd Cymunedol Brenig

Llifoleuadau clwb pel-droed yn tynnu sylw at gyllid cymunedol fferm wynt

underline

Mae clwb pel-droed uchelgeisiol wedi cicdanio apêl i grwpiau cymunedol ymgeisio am gyllid, gyda chyfanswm o £60,000 ar gael.

Mae Clwb Pel-droed Rhuthun yn paratoi ar gyfer y tymor newydd ar ôl cwblhau uwchraddio eu cyfleusterau’n sylweddol, yn cynnwys system llifoleuo newydd sy’n creu argraff fawr.

Mae’r goleuadau newydd yn barod i’w switsio ymlaen gyda 12 polyn newydd yn cynnal goleuadau LED a fydd yn goleuo caeau pel-droed y tîm cyntaf a’r tîm wrth gefn, yn ogystal â’r ardal hyfforddi.

Mae’r llifoleuadau yng nghartref y clwb yn y Caeau Chwarae Coffa wedi derbyn grant gan Brosiect Fferm Wynt Brenig, rhan o dros £150,000 mewn cymorth grant y llwyddodd y clwb i’w ddenu ar gyfer y gwaith uwchraddio. Codwyd gweddill yr arian gan noddwyr y clwb ac ymdrechion codi arian yr aelodau eu hunain.

Mae’r arian gan Brosiect Fferm Wynt Brenig yn rhan o gyfanswm o £333,362 a rannwyd gan Cadwyn Clwyd, asiantaeth adfywio gwledig wedi’i lleoli yn Sir Ddinbych, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Y dyddiad cau ar gyfer y rownd gyllido nesaf yw dydd Mercher, 25 Awst, gyda £60,000 arall ar gael ac mae mudiadau yn ardaloedd gwledig Conwy a Sir Ddinbych yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu ceisiadau.

Bydd Cronfa Fferm Wynt Brenig yn darparu bron i £4 miliwn dros 25 mlynedd i gymunedau yn yr ardal gymwys.

Dywedodd David Heelan o Brenig Wind Ltd:

“Mae’n gyfle rhagorol i gymunedau gwledig elwa. 

“Mae Cadwyn Clwyd eisoes wedi dosbarthu ymhell dros £300,000 i fwy na 50 o brosiectau lleol amrywiol mewn pedair rownd cyllido grwpiau cymunedol gydag ystod o wahanol brosiectau, sydd wedi cynorthwyo i ddenu rhagor o gyllid o ffynonellau eraill. 

“Bydd y ceisiadau’n cael eu hystyried gan banel grantiau lleol, a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch lle a faint o arian sy’n cael ei ddyrannu.” 

Mae’r ardal gymwys yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn ymestyn o Lanelwy yn y  gogledd i Faerdy, ger Corwen, yn y de, ac o’r Afon Clwyd yn y dwyrain ar draws Bryntrillyn i Gerrigydrudion a rhannau uchaf Dyffryn Conwy.

Fe’i cyllidir gan gwmni Brenig Wind Ltd y gellir gweld ei 16 tyrbin gwynt yn troi ar y gorwel ar Fynydd Hiraethog i gynhyrchu dros 37.6 megawat o bŵer – digon i bweru dros 30,000 o gartrefi’r flwyddyn.

Yn ôl Cadeirydd Clwb Pel-droed Rhuthun, Andy Edwards

Mae’r cyllid gan Fferm Wynt Brenig, ynghyd â chefnogaeth gan Chwaraeon Cymru, Cronfa Fferm Wynt Clocaenog a noddwyr lleol, yn cynnwys cwmni Jones Bros, wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’r clwb.

“Mae’n edrych yn wych yma,” meddai. “Dydym ni ddim wedi cael llifoleuadau o’r blaen, ond fe fyddan nhw’n barod ar gyfer dechrau’r tymor newydd. 

“Maen nhw’n mynd â’n cyfleusterau ni i’r lefel nesaf a bydd yn cwmpasu meysydd y Tîm Cyntaf a’r tîm wrth gefn a’r maes hyfforddi er na fyddwn ni’n chwarae yma am ychydig o wythnosau oherwydd ein bod yn rhannu’r caeau gyda Chlwb Criced Rhuthun. 

“Maen nhw’n mynd â’n cyfleusterau ni i’r lefel nesaf a phetaem ni’n cael ein dyrchafu i lefel uchaf pel-droed Cymru, Premier Cymru, byddent yn hawdd i’w huwchraddio. 

“Rydym ni i gyd yn falch iawn ac yn gyffrous am y cyfleusterau sydd yma’n awr ac mae’n dangos ein huchelgais ni fel clwb. 

“Mae’r holl waith ychwanegol oedd ei angen i gwblhau’r prosiect a rhoi pethau yn ôl fel cyn dechrau wedi’i wneud gan dîm mawr o wirfoddolwyr lleol. 

“Mae aelodau’r clwb pel-droed a’r clwb criced ynghyd â chontractwyr lleol wedi gweithio’n hynod o galed i gael y cyfleusterau fel rydym ni eu hangen nhw. Fedra’ i ddim diolch digon i bawb. 

“Mae’r cyfan wedi’i wneud yn wirfoddol a’r unig rai sy’n cael eu talu ydi’r contractwyr lleol sy’n gorfod dod i mewn i wneud y gwaith. 

“Mae’r cyfan yn deillio o waith caled ein haelodau a chefnogaeth a haelioni ein noddwyr lleol.” 

Hyd yma mae’r gronfa wedi cynorthwyo i gyllido lleiniau bowlio yn Ninbych a Llansannan, cegin yn Neuadd Goffa’r Bylchau, gliniaduron a dyfeisiau iPad ar gyfer clwb ar ôl ysgol yng Ngherrigydrudion, camerâu i recordio’r wiwerod coch yng Nghoedwig Clocaenog a diffibrilydd mewn hen flwch ffôn yn Nantglyn.

Dywedodd Rheolwr Prosiect Cadwyn Clwyd, Helen Williams:

“Rydym ni wedi bod wrth ein boddau’n cynorthwyo cymaint o fudiadau lleol i elwa o Gronfa’r Fferm Wynt hyd yma ac rydym ni’n chwilio am lawer rhagor i gyflwyno ceisiadau erbyn y dyddiad cau. 

“Mae hwn yn gyfle gwych i grwpiau a chymdeithasau cymunedol lleol y mae angen iddyn nhw feddwl yn fach neu’n fawr, gan fod yr arian ar gael ar gyfer ystod o brosiectau ar draws yr ardal.”