Arloesi Cymunedol Sir Ddinbych

Hwb i Grwpiau Cymunedol Sbarduno Adferiad Economaidd

underline

Mae gweledigaeth gwerth £500,000 i drawsnewid cyfleusterau mewn parc poblogaidd wedi derbyn hwb gan gynllun sy’n hybu adferiad economaidd ôl-bandemig yn Sir Ddinbych.

Mae Prosiect Gwella Glan yr Afon Llangollen yn un o 14 o fentrau i sicrhau cyllid gan Arloesi Cymunedol Sir Ddinbych drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, sydd wedi’i gyfateb gan Gronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog a’i arwain gan Cadwyn Clwyd.

Dywedodd Cadeirydd Grŵp Cymunedol Parciau Llangollen, Jessica Evans, y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb sy’n canolbwyntio ar gynigion gan gynnwys ‘pad sblash’ newydd, tirlunio, golff mini, adnewyddu’r bandstand, byrddau dehongli a phwyntiau gwefru e-feiciau.

Diolchodd i Cadwyn Clwyd am eu cefnogaeth a dywedodd y bydd y grant yn mynd ymhell i’w helpu i wireddu eu gweledigaeth.

“Fel grŵp o rieni ac aelodau o’r gymuned daethom yn rhwystredig gyda chyflwr y parc a’i gyfleusterau, rhai ohonynt yn flinedig ac wedi dyddio,’ meddai Jessica.

“Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn caniatau i ni edrych ar wahanol opsiynau, yn bennaf offer chwarae newydd a pha opsiynau sydd ar gael, fel costau a manteision pad sblash.

“Nid oes gennym ni unrhyw chwarae dŵr na phwll nofio yn yr ardal bellach felly bydd hynny’n rahn fawr o’n cynigion, a fydd yn gynhwysol ac yn ecogyfeillgar.”

Ychwanegodd: “Mae gan y parc lefel uchel o ymwelwyr ac mae’n atyniad hollbwysig sydd angen rhywfaint o TLC.

“Gallai’r pad sblash gostio hyd at £300,000 a gweddill y gwelliannau dros £200,000 felly mae hwn yn brosiect enfawr, ond mae ei wir angen.

“Ein nod yn y pen draw yw sicrhau cyllid fel y gallwn ddatblygu’r parc ar gyfer llu o bobl sy’n dod yma bob dydd, a’i wneud yn deilwng o’i leoliad hardd.

“Diolch yn fawr iawn i Teithio Llesol, Cyngor Tref Llangollen ac aelodau’r grŵp am eu cymorth drwy’r amser.”

Mae Rheolwr Cadwyn Clwyd, Lowri Owain, wrth ei bodd eu bod wedi gallu helpu Grŵp Cymunedol Parciau Llangollen.

“Dyma brosiect fydd yn diogelu’r parc a’i gyfleusterau at y dyfodol, gan ddenu ymwelwyr a darparu amgylchedd cynaliadwy, croesawgar i deuluoedd,” meddai.

Ychwanegodd Swyddog Adnoddau Naturiol Cadwyn Clwyd, Sarah Jones:

“Rydym wedi gallu cefnogi rhai sefyliadau a busnesau cymunedol gwych gyda’u syniadau, ac mae hwn yn bendant yn un ohonyn nhw.

“Rwy’n siwr y bydd yr astudiaeth yn cefnogi eu cynlluniau gwych ac yn cael effaith gadarnhaol am flynyddoedd i ddod – dymunwn bob llwyddiant iddynt.”