Cynnwys ar gyfer y Wefan

Prosiect Ardal: Menter Bwrsariaeth Pobl Ifanc
Sir: Sir y Fflint

Swyddog y Prosiect: Sian Roberts
Echel: 3


Beth ydy’r prosiect?

Bydd prosiect Sbarc 16-30 yn rhoi cyngor a nawdd ariannol i unigolion a grwpiau o bobl ifanc rhwng 16 a 30 oed sy’n byw mewn rhannau penodol o’r wlad ac sydd eisiau dechrau busnes newydd neu gychwyn menter gymunedol.

Sut allwn ni helpu?

Mae Cadwyn Clwyd yn gweithredu'r prosiect cyffrous hwn. Mae swyddog y prosiect, Sian Roberts yn egluro mwy:

"Os 'da chi'n unigolyn sydd eisiau dechrau busnes newyd, neu'n grŵp cymunedol sydd eisiau datblygu menter newydd, gall Sbarc 16-30 helpu."

"Gallwn roi bwrsariaeth o hyd at £1,000 i brynu’r offer neu’r adnoddau angenrheidiol i ddechrau’r busnes. Dim ots os ydy o’n fusnes llawn amser, rhan amser, parhaol neu dros dro – gallwn ni eu cefnogi nhw i gyd."

Mae’r bwrsariaethau ar gael am hyd at 80% o gost y gefnogaeth angenrheidiol a bydd ceisiadau am nawdd o hyd at £1,000 yn cael eu hystyried.

Caiff y prosiect ei ariannu gan Cadwyn Clwyd drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygiad Gwledig: Ewrop yn buddsoddi mewn ardaloedd gwledig, a chaiff ei ddarparu gan gwmni datblygiad economaidd Menter a Busnes sydd wedi ei leoli yn yr Wyddgrug.

Pwy all wneud cais?

Mae’r gefnogaeth ar gael i bobl ifanc sy’n byw yn y wardiau etholiadol canlynol yn Sir y Fflint: Brynffordd, Mynydd Bwcle, Caergwrle, Caerwys, Cilcain, Ffynnongroyw, Fflint Oakenholt, Fflint Trelawny, Gronant, Gwernaffield, Gwernymynydd, Helygain, Higher Kinnerton, Canol Treffynnon, Dwyrain Treffynnon, Gorllewin Treffynnon, Yr Hôb, Coed-llai, Llanfynydd, Broncoed yr Wyddgrug, Dwyrain yr Wyddgrug, Gorllewin yr Wyddgrug, Mostyn, New Brighton, Llaneurgain, Pentre Catheral, Penyffordd, Cyffordd Saltney a’r Wyddgrug, Sealand, Trelawnyd a Gwaenysgor, Treuddyn a Chwitffordd. Gallwch weld os ydy’ch cartref chi yn un o’r ardaloedd hyn drwy gysylltu â Menter a Busnes.

I gael gwybod mwy

Gall unrhyw un sydd eisiau rhagor o wybodaeth neu sydd eisiau darganfod os ydyn nhw’n gymwys i gael bwrsariaeth ffonio Cadwyn Clwyd ar 01824 705802 neu anfon e-bost at sian.roberts@cadwynclwyd.co.uk


Eitemau Cysylltiedig