CGGC

Canllawiau ar gyfer ailagor Canolfannau Cymunedol yng Nghymru

underline

Rhagair

Mae’r canllaw hwn ar gyfer canolfannau cymunedol yng Nghymru i roi trosolwg byr i chi o sut i baratoi ar gyfer ailgychwyn eich gwasanaethau pan gaiff hynny ei ganiatáu.

Ar adeg cyhoeddi’r adroddiad hwn, rhaid i ganolfannau cymunedol barhau ar gau, oni bai am eithriadau penodol. Mae’r eithriadau hynny’n cynnwys darparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol i bobl ddigartref neu agored i niwed ac, o dan gais y Gweinidogion Cymreig neu awdurdod lleol, ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Gweler Rheoliad 7 yma, a , ddiweddarwyd ar 3 Gorffennaf 2020.

Ar ddydd Gwener, 10 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd canllawiau’n cael eu cyhoeddi i gefnogi canolfannau cymunedol i ailddechrau mwy o wasanaethau cymunedol yn ôl disgresiwn yr awdurdodau lleol.

Mae’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn gosod nifer o gyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau eraill a rhaid i chi reoli’ch mudiad mewn modd sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau hyn, wrth iddynt gael eu diweddaru neu eu diwygio.

Mae’r canllaw hwn yn gywir ar adeg ei gyhoeddi ac rydym yn argymell ei ddarllen ar y cyd â chanllawiau’r llywodraeth. Dylech eu hadolygu’n rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Yng Nghymru gallwch gyfeirio at y gwefannau hyn i gael arweiniad: Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dylech hefyd gyfeirio at ganllawiau a ddarperir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Gweler y rheoliadau eu hun ac unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau yma.

Nid yw’r canllaw hwn yn gyngor cyfreithiol ac nid yw CGGC yn derbyn unrhyw atebolrwydd sy’n deillio ohono ac nid yw’n gyngor proffesiynol. Mae CGGC yn argymell eich bod yn gwneud eich gwaith ymchwil eich hun ochr yn ochr â’r canllaw hwn i sicrhau eich bod wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau diogelwch eich adeilad, eich staff, gwirfoddolwyr, cwsmeriaid a’r gymuned.

Os oes gennych yr hawl i agor eich lleoliad, dim ond pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a’ch bod yn teimlo’n hyderus yn eich gallu i amddiffyn defnyddwyr yr adeilad y dylech wneud. Tan hynny dylai eich lleoliad aros ar gau.

Ystyriwch a oes cyfyngiadau lleol yn eu lle, yn ogystal ag ystyried y posibilrwydd o gyfyngiadau lleol yn y dyfodol.

Cofiwch, os bydd rhywun yn mynd yn sâl yn y gweithle gyda phesychiad parhaus newydd, tymheredd uchel, colli eu synnwyr arogli neu flasu arferol, yna dylid eu hanfon adref a’u cynghori i ddilyn y cyngor i aros gartref.

Paratowyd gan Emma Waldron, Rheolwr Caffael a Llywodraethu Risg – CGGC 

darllenwch y ddogfen ganllaw lawn:

CYM – Guidance for Community Centres reopening in Wales_EW2 (003) _