BLASU Gogledd Ddwyrain Cymru

Busnesau bwyd a diod yn ymateb i heriau'r cyfnod y clo

underline

Mae busnesau bwyd a diod wedi camu ymlaen i ateb yr ymchwydd yn y galw am gynnyrch ffres yn ystod y cyfnod clo.

Mae Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru wedi canmol cwmnïau bwyd, diod a lletygarwch lleol am arallgyfeirio a newid eu modelau busnes i wasanaethu cymunedau’n well ers dechrau’r pandemig Coronafeirws.

Maen nhw wedi cynnig danfon nwyddau i gartrefi, gwerthu ar-lein, cynnig cynnyrch newydd a chynyddu cynhyrchiant yn ddramatig i gefnogi’r cwsmeriaid a oedd fwyaf ei angen, yn cynnwys yr henoed a phobl fregus mewn trefi ac ardaloedd gwledig.

Ymhlith y busnesau sydd wedi parhau i fasnachu trwy gydol y misoedd diwethaf mae Porters Delicatessen yn Llangollen. Dywedodd y perchennog, Tracey Hughes, fod y galw am eu cynnrych wedi cynorthwyo’r busnes i oresgyn bygythiad COVID-19.

“Roedd gan y cyfyngiadau symud y potensial i ddifethaf ein busnes yn llwyr, ond fe wnaethom ni addasu’n sydyn pan ddaeth yn amlwg gan gwsmeriaid a oedd yn hunan ynysu y byddent yn parhau i fwynhau eu hoff fwydydd, yn enwedig caws,” meddai Tracey.

“Rydym ni wedi cynnig gwasanaeth danfon nwyddau i gartrefi am ddim yn lleol, ond gwnaethom lwyddo i ehangu hyn yn fawr gyda chymorth ein groser lleol, Dee Valley Fruit and Veg.”

“Trwy weithio gyda’n gilydd fe wnaethom ni gwmpasu ardal llawer mwy a chyflenwi llawer mwy o’n cwsmeriaid. Pan ddeallodd pobl eu bod yn medru ffonio archeb a’i dderbyn y diwrnod nesaf gwnaeth y gwasanaeth fynd yn boblogaidd iawn, ac mae’n parhau i gael ei ddefnyddio yn awr.”

Ychwanegodd: “Tra na wnaethom ni gau i gwsmeriaid o gwbl, nawr fod pethau’n llawer prysurach rydym ni’n rheoli’r niferoedd yn y siop ac wedi gosod sgriniau a gorsaf diheintio dwylo i gadw pawb yn ddiogel.”

Un arall sydd wedi gweld cynnydd mawr mewn gwerthiannau yw Swans Farm Shop yn Nhreuddyn, ger yr Wyddgrug.

Gail Swan sy’n gyfrifol am y fenter gyda’i gŵr Clive, sy’n gigydd, eu mab Edwards, y cigydd cynorthwyol, a’u merch Becca, sydd hefyd yn fydwraig.

“Mae gennym ni fferm a siop fferm, felly pan mae’r siop yn brysurach mae’n golygu fod y fferm yn brysurach, ond mae’r flaenoriaeth wedi bod ar ddiogelwch bob amser,” meddai Gail.

“Prin fod diwrnod wedi mynd heibio heb i ni gyflwyno rhywbeth newydd, sydd wedi bod yn heriol ond wedi rhoi boddhad mawr gan ein bod ni wedi medru cefnogi mwy o gynhyrchwyr lleol.

“Rydym ni wedi cynyddu cynhyrchu ein heitemau ein hunain ac mae busnesau lleol wedi gwneud yr un fath; mae’r amrediad cynhyrchion hanfodol sydd gennym ni yn awr yn anhygoel oherwydd fod pobl wedi bod yn dod i mewn a gofyn am bethau nad oeddem ni’n eu cadw mewn stoc yn flaenorol.

“Rydym ni wedi bod yn byw ac yn bod y busnes, ond yn falch ein bod ni wedi medru gwasanaethu ein cymuned yn ystod yr hyn yn ddiamau sydd wedi bod y cyfnod prysuraf yn yr 17 mlynedd ers i ni agor.”

Mae’r ail ddigwyddiad blynyddol Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael ei gynnal yn rhithiol eleni wedi i’r trefnwyr, Bwyd a Diod Bryniau Clwyd a Bwyd a Diod Dyffryn Dyfrdwy, gyda chefnogaeth Cadwyn Clwyd, Ardal o Harddwch Naturiol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac awdurdodau lleol Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych, benderfynu cynnal dathliad ar-lein i sicrhau iechyd a diogelwch y cyfranogwyr.

Bydd hyn yn cynnwys cyfres o ffilmiau byr am fusnesau bwyd a diod lleol, i’w dilyn gan rith ddigwyddiadau yn yr Hydref.

Ariennir y prosiect gan Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, trwy’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Canmolodd Robyn Lovelock, Cydlynydd y Prosiect Blasu ac Ysgrifennydd Bwyd a Diod Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy, fusnesau am y ffyrdd arloesol ac ar unwaith yr oeddynt wedi ymateb i ansicrwydd y pandemig.

“Roedd hyn yn diriogaeth cwbl newydd iddyn nhw i gyd, ac eto fe wnaethon nhw gamu ymlaen pan oedd eu cymunedau – yn enwedig pobl yn gwarchod mewn ardaloedd gwledig – dan gyfyngiadau’r  cyfnod clo adref ac yn methu mynd i’r siopau neu drefnu i’r archfarchnad ddanfon nwyddau,” meddai.

“Rydym ni wedi gweld y gorau gan y diwydiant bwyd a diod yn y rhanbarth hon yn ystod y misoedd diwethaf. Mae’n ein gwneud ni’n falch iawn o fedru tynnu sylw at yr ymdrechion enfawr a wnaed gan fusnesau lleol.”

Ei neges allweddol i gwsmeriaid yn awr ydi dal ati i siopa’n lleol.

“Rydym ni i gyd wedi gwerthfawrogi sut y gwnaeth busnesau lleol fynd y filltir ychwanegol yn ystod yr argyfwng. Y ffordd orau o ddiolch iddyn nhw ydi parhau’r gefnogaeth wrth i’r cyfnod clo lacio – cynllunio pa eitemau rydych chi am eu prynu’n lleol a chreu cynllun pryd y byddwch chi’n gwneud hynny bob wythnos,” ychwanegodd Robyn.

Os hoffech gael gwybod mwy am Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru, dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol @taste_blasu neu anfon neges e-bost i taste.blas@gmail.com.  Mae croeso i chi edrych ar y wefan hefyd: www.tastenortheastwales.org.